Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/269

Gwirwyd y dudalen hon

i just a gwanobeithio,' ebe Elis. A ffwrdd â fo yn 'i siaced wlanen a'i het galed. Ond 'doedd o ddim wedi bod i lawr ddeng munud, na redodd o i fyny'r 'sgolion na ŵyr o hyd y dydd heddiw sut; ac i lawr i'r dre â fo a'i het yn 'i law, a'r plwm yn 'i law arall, ac wedi hanner colli 'i wynt, yn gweiddi: Yr Arglwydd a roddodd, â'r Arglwydd a ddygodd ymaith! A dyna hynny o blwm a gafodd Elis ym Mhen y Boncyn. Ond digrifwch y peth oedd hyn: toc ar ôl y tric ar Elis fe ddaeth rhw bregethwr diarth i gapel y Batis, a'i destun o oedd, 'Yr Arglwydd a roddodd,' ac felly yn y blaen, a dyna bawb yn troi eu llygaid ar Elis, ac fe'i gloywodd Elis hi allan o'r capel. Bydawn i chi, Mr. Huws, mi fynnwn weld drosof fy hun. Ewch i lawr y Gwaith yfory."

"Be? y fi fynd i lawr, Mr. Jones? 'Chymrwn i ddim mil o bunne am fynd," ebe Enoc.

"Ha! ha!" ebe Jones, "un braf ydech chi, Mr. Huws, i fentro! Sut y gwyddoch chi ydi'r meinars yn deud y gwir wrthoch chi? 'Choeliwn i byth feinar.'

"Bydaen nhw'n deud celwydd wrtha i am oes," ebe Enoc, "'dawn i byth i lawr y siafft, achos mi wn yr âi 'y mhen i'n ysgafn, ac y byddwn yn y gwaelod cyn farwed â hoelen cyn i mi gyfri dau, a pha les i mi wedyn fydde'r plwm na dim arall?"

"Dim," ebe Jones, " ond y byddech yn sefyll siawns dda i gael arch blwm fel gŵr bonheddig. Ond deudwch i mi, oedd o ddim yn rhyfedd fod y Capten allan mor hwyr heno?"

"O! welsoch chi'r Capten?" gofynnai Enoc.

"Do," ebe Jones, "o Dŷ'n yr Ardd y dois i 'rwan,—'rwyf wedi bod yn lloffa ar ôl ych cynhaea chi, a mi ges rywbeth yno na chawsoch chi, y titots, mono—mi ges lasaid o wisgi hefo'r hen ŵr."

"Lle daru chi daro ar y Capten?" gofynnai Enoc.

"Yn bur od," ebe Jones, " 'roeddwn i just yn dwad i gornel y stryd fawr, a mi glywes gnocio ar ddrws, a be welwn i ond rhwfun yn curo ar ddrws Lloyd, y twrne.