fase'r person yr un munud hwy yn myned dros y wers, a mi faswn inne'n safio gwisgo'r lifre 'ma. Ond yrwan y mae dynion yn cymryd amser i edrach o'u cwmpas, ac yn cymryd gofal fod y wraig yn dwad â rhywbeth i'r tŷ heblaw tafod drwg. Quite right hefyd. Ac er, y mae 'n rhaid i mi gyfadde, fod yno brydferthwch, dysg, a sens, yn ddiame, 'rwyf yn meddwl na fase rhwfun ydw i'n 'i 'nabod mor ddyfal yn Nhŷ'n yr Ardd, oni bai 'i fod o'n credu fod yno rywbeth arall."
"Nid yw'r un y cyfeiriwch ato, Mr. Jones, mor fydol ac ariangar â hynny, a phe buasai rhywbeth mwy na chyfeillgarwch rhyngddo ef a Miss Trefor, ac iddo gael allan nad oedd ei thad yn dda arno, neu hyd yn oed ei fod yn dlawd, ni fuasai hynny yn newid mymryn ar ei fwriadau tuag ati," ebe Enoc.
Dyn rhyfedd ydech chi, Mr. Huws, yr ydech chi cweit yn eithriad yn y peth yna," ebe Jones.
"Wn i beth am hynny," ebe Enoc, "ond mi wn hyn, nad ystyriwn i gariad yn gariad o gwbl pe bai i amgylchiadau'n newid dim arno."
"Mi welaf," ebe Jones, "mai'r syniad hen ffasiwn sy gynnoch chi, Mr. Huws, am gariad y cariad y mae'r nofelau yma yn sôn amdano. Ond erbyn y dowch chi i actual life, welsoch chi 'rioed lai fydd ohono hyd yn oed gan y rhai oedd yn tybied ei fod ganddynt; ac yr ydech chi'n cofio am y ddihareb: Pan ddaw tlodi i mewn trwy'r drws y mae cariad yn ffoi allan drwy'r ffenest."
"Fu 'rioed ddihareb fwy celwyddog, yn ôl 'y meddwl i," ebe Enoc. "Mae'n ddiame bod tlodi wrth ddwad i mewn trwy'r drws wedi bod yn wasanaethgar i ddangos lawer tro na fu yn y tŷ erioed wir gariad. Pan fydd dyn yn syrthio dros ei ben a'i glustiau mewn cariad at brydferthwch a theilyngdod, ac yn cael ei daro megis gan fellten yn fud ac yn fyddar, fedr o byth ysgwyd hwnnw i ffwrdd—waeth faint o bethau ddaw i'r golau, os na fyddant yn milwrio'n uniongyrchol yn erbyn yr hyn y syrthiodd mewn cariad ag ef—ni fedrant newid dim arno,