Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/273

Gwirwyd y dudalen hon

'i ben i beidio â thalu'r arian nes licie fo'i hun. Ond sut y deusoch chi o hyd i hyn Mr. Jones?"

"Fedra i ddim ateb y cwestiwn yna, Mr. Huws, heb fradychu ymddiried. Mae plismon yn dwad o hyd i fil o bethau na wiw iddo eu dweud. Ond y mae'n ddigon gwir, coeliwch chi fi, a mi fedrwn ddweud chwaneg wrthoch chi, ond mi wn ar eich wyneb nad ydych yn coelio," ebe Jones.

Ni fedrai Enoc gelu ei lawenydd, a chododd Jones i fyned ymaith, ac ebe fe:

"Amser a ddengys, Mr. Huws, ond byddwch ofalus a llygadog, ac yr ydech chi'n siŵr o ffeindio fy mod Beth oedd y trwst yna? oes gynnoch chi gathod yma?

"Nac oes," ebe Enoc, "mae yma fwy o lygod nag o gathod—mae Marged yn lladd pob cath a ddaw 'ma. Ond yr oedd yna ryw drwst, ond oedd? Beth oedd o, tybed?

"Yn y rŵm gefn yr oedd o, gadewch i ni fynd i edrach. rhag ofn fod yma ladron," ebe Jones.

Goleuodd Enoc gannwyll, ac nid yn ddiofn, wedi clywed enwi lladron, yr aeth tua'r ystafell gefn, ond yr oedd yn weddol gefnog hefyd, gan fod Jones wrth ei sawdl. Agorodd Enoc y drws gan ddal y gannwyll ar hyd ei fraich, a chan gadw ei gorff cyn belled yn ôl ag y medrai. Cyn gynted ag yr estynnodd Enoc y gannwyll ymlaen i'r ystafell, ceisiwyd ei chwythu allan gan rywun o'r tu ôl i'r drws, a neidiodd Enoc yn ôl mewn dychryn gan daro yn erbyn ystumog Jones. Cipiodd Jones y gannwyll o'i law, a gwthiodd Enoc o'i flaen i'r ystafell yn erbyn ei waethaf, ac yn y ffrwgwd, clywent rywun yn dweud yn ddistaw: "Y fi sy 'ma, mistar."

"Ie, a phwy arall?" ebe Jones, gan ddal y golau i bob cyfeiriad.

Datguddiodd y goleuni olygfa ddiniwed dros ben—rhy ddiniwed i achosi'r fath fraw i Enoc, oblegid yr oedd ef wedi dychrynu yn enbyd—crynai fel deilen, ac yr oedd ei wyneb mor welw â marwolaeth. Yn yr ystafell hon