Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/274

Gwirwyd y dudalen hon

yr oedd mainc oddeutu dwylath o hyd, a ddefnyddid gan Marged ar ddiwrnod golchi i ddal y padelli. Pan aeth Jones ac Enoc i mewn, eisteddai Marged ar un pen i'r fainc hon, a'i gên yn pwyso ar ei bron a'i bys yn ei safn, gan edrych ar y llawr yn yswil ac euog. Y tu ôl i'r drws yr oedd cymeriad adnabyddus o'r enw Tom Solet yn sefyll, neu'n hytrach, yn osgo un ar ganol codi oddi ar ei eistedd. Gwisgai Tom drywser cord, oedd fyr i fyny ac i lawr. Yn y gwaelod yr oedd wedi ei godi y tu ucha i'r fferau a'i rwymo â llinyn dan bennau'r gliniau, ac yn y top wedi ei droi drosodd a'i sicrhau â strap a bwcl, a chrys unlliw yn gweflo yn llanast dros ei ymylon. Unlliw fyddai crys Tom bob amser—lliw peidio â dangos baw—a chloben o goler arno fel coler côt—rhag gwisgo cadach. I arbed gwasgod gyffredin—gwisgai Tom wasgod lewys, ac er ei bod yn ddwbl—brest a botymau mawr arni, byddai bob amser yn agored—haf a gaeaf. Dyna oedd diwyg Tom yn dyfod i garu. Nid hwn oedd y tro cyntaf iddo fod wrth y gorchwyl—canys yr oedd wedi claddu tair o wragedd, ac nid oedd Tom yn gweled bod angen am ddim extra yn ei wisg y noson hon. Ond dyn gonest oedd Tom, ac yr oedd wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd dan y Local Board, ac wedi hwylio cymaint ar y ferfa, fel na byddai byth yn sefyll yn syth, ond, fel y dywedwyd, megis ar ganol codi oddi ar ei eistedd. Ni ddangosai Tom, pan ddaliwyd ef yn yr ystafell gefn gan Jones ac Enoc, ddim byd tebyg i'r benbleth yr oedd Marged ynddi, ac yr oedd mwy o ddireidi i'w ganfod yn ei wyneb nag o fraw. Gofynnodd Jones iddo:

"Wel, Tom, be ydi'ch busnes chi mewn tŷ fel hyn yr adeg yma ar y nos?"

Gwenodd Tom, ac amneidiodd â'i ben a'i lygaid ar Marged—ystyr yr hyn oedd—"Mae 'musnes i efo hi."

"Beth?" ebe Jones, "ai wedi dwad yma i garu Marged yr ydech chi?"

Rhoddodd Tom nod cadarnhaol, a hwb i'w drywser.