Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/280

Gwirwyd y dudalen hon

cyffredin, syr, fe fuasai hyn yn destun llawenydd mawr i mi; ond pan fydd un wedi cyrraedd hynny yw, i un yn f'oed i, ac yn y pryder yr wyf ynddo heddiw am fywyd fy ngwraig, nid yw nac yma nac acw, oblegid os cymerir hi ymaith (ac yn y fan hon chwythodd y Capten ei drwyn yn egniol), byddaf wedi fy ngadael yn unig yn hollol unig, syr."

"Yr ydych yn anghofio, Capten Trefor," ebe Enoc, hyd yn oed pe collech Mrs. Trefor—peth na ddigwydd, yr wyf yn gobeithio ac yn credu, am gryn amser—byddai gennych ferch rinweddol wedi ei gadael gyda chwi."

"Na," ebe'r Capten, nid ydwyf yn anghofio hynny, Mr. Huws, ond pa sicrwydd sydd gennyf na fydd i rywun—yn wir, dyna yw'r tebygolrwydd, y byddech chwi, neu rywun arall tebyg i chwi, yn ei dwyn oddi arnaf, dyna ydyw ffordd y byd, dyna ydyw trefn Rhagluniaeth."

Difyr gan Enoc oedd clywed y Capten yn siarad fel hyn, a fflachiodd i'w feddwl onid doeth ynddo fuasai crybwyll wrtho ei serch at y ferch, a'r awydd angerddol oedd ynddo am ei chael yn wraig. Ond cyn iddo allu ffurfio'r drychfeddwl mewn geiriau, ebe'r Capten:

"Ac yn awr, Mr. Huws, rhaid i mi ddweud nos dawch, a hyd nes bydd acw ryw gyfnewidiad, mae arnaf ofn na allaf roddi ond ychydig o sylw i Goed Madog, ac o dan yr amgylchiadau, mi wn yr esgusodwch fi," ac ymaith ag ef.

Unwaith eto yr oedd Enoc wedi colli'r cyfleustra—yr oedd bob amser yn ei golli—a dechreuai gredu bod rhyw ffawd ddrwg yn ei ddilyn, a'i fod wedi ei eni dan ryw blaned anlwcus. Credai Enoc dipyn mewn tynged, ac yn bendrist ddigon y noson honno yr adroddodd wrtho ei hun fwy nag unwaith hen bennill a welsai mewn rhyw gerdd neu'i gilydd:

Ni wiw mo'r tynnu yn erbyn tynged,
Mae'n rhaid i'r blaned gael ei ffors,—
'Rwyf wedi 'nhyngu ers pymthengnydd
I wasnaethu'r Brenin Siors.