Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/282

Gwirwyd y dudalen hon

bythefnos heb weled ei hwyneb hawddgar,—teimlai fel dyn wedi bod yn rhy hir heb fwyd yn cael ei ddwyn at fwrdd y wledd. Canfu Enoc ar drawiad fod Miss Trefor yn edrych yn deneuach a llwtyach, ond ni welsai moni erioed mor swynol yr olwg. Glynai ei dafod yn nhaflod ei enau, ac aeth pob gair o'r hyn a baratoesai allan o'i feddwl yn llwyr. Ysgydwodd Miss Trefor law ag ef yn oer a ffurfiol, a dywedodd wrtho am eistedd, ac wedi aros munud mewn distawrwydd, ychwanegodd:

"Wel, Mr. Huws, be sy gynnoch i'w ddeud wrtha i?" Wedi pesychu a chlirio'i wddf nid ychydig, ebe Enoc, gan hanner tagu:

Mae gen i lawer o bethau isio'u dweud wrthoch chi, bydawn i'n gwybod sut. Y peth sy'n 'y mlino i fwya ydi 'mod i'n ofni i mi'ch clwyfo drwy ddweud bod yn dda gen i glywed fod eich tad yn dlawd, a chwi wyddoch na chefais amser na chyfleustra i esbonio'r hyn yr oeddwn yn ei feddwl wrth ddweud felly. Mi wn ei fod yn ddwediad rhyfedd —"

"Ewch ymlaen, Mr. Huws, achos 'does gen i ddim llawer o amser i aros," ebe Miss Trefor.

"Wel," ebe Enoc, a dechreuodd deimlo'i fod yn cael help, a mae help i'w gael yn rhyfedd," fel y dywedai Mrs. Trefor ar amgylchiad arall.

"Wel," ebe Enoc, mewn ystyr mi ddwedaf yr un peth eto, a gadewch i mi grefu arnoch i beidio â rhedeg i ffwrdd cyn i mi orffen fy stori. Syniad cyffredinol eich cymdogion, Miss Trefor, ydyw bod eich tad yn weddol gefnog, a dyna oedd fy syniad innau hyd yn ddiweddar iawn. Ond erbyn hyn yr wyf yn gorfod credu nad ydyw'ch tad, a dweud y lleiaf, yn gyfoethog. Mewn un ystyr, mae'n ddrwg iawn gennyf, ac mewn ystyr, y mae'n dda iawn gennyf ddeall mai dyna ydyw ei sefyllfa, fel y dywedais y noson o'r blaen. Mi wn pan ddywedais hyn o'r blaen—bythefnos yn ôl—fy mod wedi'ch brifo yn fawr, a hwyrach y bydd i mi eich digio'n fwy eto pan ddwedaf pam yr oeddwn, ac yr ydwyf eto, yn dweud