felly. Ac nid ydwyf heb ofni, Miss Trefor, pan ddwedaf fy rheswm, y byddwch wedi digio wrthyf am byth."
"Ewch ymlaen, Mr. Huws, 'does neb efo 'mam ond Kit, a mi fydd yn galw amdanaf yn union," ebe Miss Trefor.
"Wel," ebe Enoc, " byddai'n anodd gennyf gredu nad ydech yn gwybod fy meddwl cyn i mi ei ddweud. 'Does dim posib nad ydech wedi deall ar f' ymddygiad ers llawer o amser bellach, fy mod yn coleddu rhyw deimlad tuag atoch nad ydyw cyfeillgarwch yn enw iawn arno. Mi wn ei fod yn rhyfyg ynof, ond ni allaf i ddim wrtho—yr wyf yn eich caru, Miss Trefor, ac yn eich caru mor fawr, fel na allaf ddychmygu bod yn bosibl caru yn fwy —."
Arhosodd Enoc am funud gan ddisgwyl iddi hi ddweud rhywbeth, ond ni ddywedodd air—yn unig edrychai'n dawel a digyffro yn ei wyneb. Ac ychwanegodd Enoc—dipyn yn fwy hyderus:
Dyna'r unig reswm oedd gennyf dros ddweud bod yn dda gennyf glywed am sefyllfa anghenus eich tad. Pe buasech yn gyfoethog—a gwyn fyd na fuasech—gallasech feddwl fod gennyf ryw amcanion hunanol, ond, yn wir, y chi eich hun yr wyf yn ei garu, ac nid dim sydd o'ch cwmpas. Mae'n ddrwg gennyf sôn am beth fel hyn a'ch mam mor wael, ond maddeuwch i mi—fedrwn i ddim dal ddim yn hwy. Rhowch i mi un gair—dim ond un gair o galondid, a byddaf yn ddyn perffaith ddedwydd. Ond os gwrthodwch fi—wel, y mae arnaf ofn y byddaf yn ddyn gwallgof."
"Mr. Huws," ebe Susi, a synnai Enoc sut y gallai hi siarad mor hunanfeddiannol, "mae'n ddrwg gen 'y nghalon i glywed eich stori—coeliwch fi. Mae'n ddrwg iawn gen i'ch clywed chi'n siarad fel yna. 'Rwyf yn cofio'r amser—pan oeddwn yn hoeden wirion ddisynnwyr —pryd y byddwn yn eich diystyru ac yn eich gwawdio yn fy nghalon. Maddeuwch i mi'r penwendid hwnnw—nid oeddwn yn eich 'nabod yr adeg honno. Wedi i mi'ch