"Wn i ddim, wir, Mr. Huws, achos mi fyddaf yn gofyn llawer o gwestiynau i mi fy hun, heb fedru eu hateb," ebe hi.
"Ond mi fedrwch ateb y cwestiwn yr wyf am ei ofyn," ebe Enoc.
"Mae ambell gwestiwn nad yw'n ddoeth ei ateb, ac na ddylid ei ateb," ebe hi.
"Cewch farnu drosoch eich hun am hynny," ebe Enoc. "Goddefwch i mi ofyn i chi—A ydech wedi rhoi'ch serch ar rywun arall?"
Am foment ac am y waith gyntaf yn ystod yr ym—ddiddan, ymddangosai Susan yn gynhyrfus, ac fel pe buasai wedi colli tipyn ar ei hunan—feddiant, ond ebe hi yn union:
"Ar bwy, Mr. Huws, y buaswn i yn rhoi fy serch? Chwi wyddoch nad oes un dyn yn dwad yn agos i Dŷ'n yr Ardd ond y chi."
"'Dydech chi ddim yn ateb fy nghwestiwn, Miss Trefor," ebe Enoc.
"Wel," ebe hi, gan fesur ei geiriau yn wyliadwrus, "ers rhai blynyddoedd 'dydw i ddim wedi cyfarfod ag un dyn i'w edmygu yn fwy na chi eich hun, Mr. Huws. 'Wneith hynny eich bodloni?
"Na 'neith," ebe Enoc. "Yr wyf yn bur hy, mi addefaf, ond 'dydech chi ddim wedi ateb fy nghwestiwn."
"'Rwyf wedi ei ateb ore y gallwn," ebe hi.
"A 'does gynnoch chi ddim gwell na dim mwy cysurus i'w ddweud wrthyf cyn i chi fynd?" ebe Enoc, gan godi ar ei draed, a lleithiodd ei lygaid yn erbyn ei waethaf.
"Dim, Mr. Huws bach," ebe hi, ac nid oedd ei llygaid hithau yn neilltuol o sychion. Ychwanegodd, gan estyn ei llaw i ffarwelio ag ef: "Brysiwch yma eto. Pan ddaw 'mam dipyn yn well, mi fydd yn dda gan ei chalon eich gweled."
Ac felly y gadawodd hi Enoc gan droi tuag ystafell ei mam. Ar ben y grisiau safodd yn sydyn, a throdd i mewn i'w hystafell ei hun, ac edrychodd i'r drych—y peth cyntaf