a wna pob merch brydferth wrth fynd i ystafell wely. Yna fe'i taflodd ei hun i gadair, ac wylodd yn hidl. Ymhen dau funud, neidiodd i fyny ac ymolchodd heb anghofio twtio'i gwallt, a phe buasai rhywun yn ei hymyl, gallasai ei chlywed yn sibrwd:
"Poor fellow! mi wyddwn o'r gore mai fel yna yr oedd hi arno. Mae o'n ddyn da—da iawn—a mae o'n mynd yn well o hyd wrth ei 'nabod. Mae'n rhaid i mi addef fy mod yn ei licio'n well bob dydd—mae o'n ddyn upright ac yn honourable, a dim Humbug o'i gwmpas. A bydaswn i'n siŵr yn hollol siŵr—na ddoe—wel, mi faswn yn rhoi 'mreichiau am 'i wddf o, ac yn 'i gusanu, achos y mae'n rhaid i mi addef y gwir—yr ydw i'n ffond ohono fo. Na, faswn i ddim chwaith! Yr idea! Byth yn dragywydd! Er, wn i ddim be ddaw ohonof. Mi fydd raid i mi ennill 'y nhamed rywsut. Ond mi ddalia at fy llw, a mi gymra fy siawns. Ac eto, hwyrach 'y mod i'n sefyll yn fy ngole fy hun—sentiment ydi'r cwbl. Mor falch fase ambell un o'r cynigiad! O! bobl annwyl! y fath row sy'n y byd! A fyddwn ni yma fawr! Sut mae 'mam, druan, erbyn hyn?"
Ac i ystafell ei mam yr aeth cyn llawened â'r gog, fel pe na buasai dim wedi digwydd.