Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/289

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XL

Llw Enoc Huws

NI buasai Enoc erioed (ond cof pob diwaethaf) mor druenus ei feddwl. Yn ei holl "brofedigaethau," yr oedd, ers llawer o amser bellach, wedi arfer cael rhyw gymaint o ddedwyddwch wrth freuddwydio amdano'i hun a Miss Trefor fel gŵr a gwraig. Yn wir, yr oedd y breuddwyd mor fyw iddo weithiau, ac yn rhychwantu mor bell i'r dyfodol, nes byddai'n ei weled ei hun, â'i wallt yn dechrau britho, yn dad i bedwar o blant—dau fachgen a dwy eneth—gydag enwau a phrydwedd pob un ohonynt yr oedd ef yn hynod gyfarwydd, ac yn neilltuol o hoff o'r ieuengaf! Ond erbyn hyn yr oedd ei freuddwyd wedi diflannu fel niwl y bore. Nid yn hollol felly chwaith, oblegid cyfaddefai wrtho'i hun, ei fod wedi torri ffigur truenus o wael wrth ei gynnig ei hun i Miss Trefor, a thybiai, ambell foment, pe buasai wedi gallu bod yn ddigon hunan—feddiannol i siarad â hi fel yr oedd wedi paratoi, y gallasai'r canlyniad fod yn wahanol. Ac eto ni allai anghofio mor benderfynol yr oedd hi wedi gwrthod ei gynigiad. Ar yr un pryd cofiai Enoc mor hynaws a charedig oedd hi hyd yn oed wrth wrthod ei gais. Yn wir, yr oedd hi wedi cydnabod ei bod yn ei barchu fwyfwy fel yr oedd ei hadnabyddiaeth ohono yn cynyddu, a phwy a wyddai, fel y deuai hi i'w adnabod yn well eto, na ddeuai yn y man i'w garu yn angerddol? Meddyliau fel hyn a lanwai galon Enoc, druan, ac, yn wir, ei ystumog hefyd, canys ni fwytâi ond y nesaf peth i ddim, a mynych y dywedodd Marged mai gwastraff oedd paratoi pryd o fwyd, ac na allai robin goch fyw ar yr hyn a fwytâi Enoc. Bychan y gwyddai hi mai bara angylion oedd ei ymborth ef y dyddiau hynny!

Nid oedd Enoc yn goegfalch na chymhengar, nac mewn un modd yn un oedd yn coleddu syniadau uchel amdano'i hun—yr oedd ei dueddfryd ffordd arall—yn feius felly.