Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/296

Gwirwyd y dudalen hon

o ymborth, ac fe fydde'n resyn iddo fod heb ei fwyta. Fedrwch chi ddwad?" gofynnai Enoc.

"Medra, 'eno dyn, a mi fydd yn dda gen i gael dwad," ebe Jones. "A mae'r hen Fari Magdalen yn ych gadel chi ynte? Y fath waredigaeth!"

"Ydi," ebe Enoc, "a mi liciwn bydae popeth drosodd. Ond deudwch i mi, welsoch chi mo Didymus heno? Mi faswn yn licio iddo yntau fod acw."

"Gadewch hynny i mi, Mr. Huws, mi 'i gwelaf o toc," ebe Jones.

"Diolch, a chofiwch fod acw erbyn yr amser," ebe Enoc, yn llawn pryder a allai ef ei hun godi yn ddigon bore i "roi" Marged.