Mr. Brown y drwydded i Tom Solet, a thynnodd Tom ei bwrs o boced frest ei wasgod ar fedr talu am ei briodi, ond ataliwyd ef gan Mr. Brown.
"Hidiwch befo, Tom, fi ddim chargio chi y tro yma," meddai, "fi'n gneud hyn fel discount am y trôs o'r blaen, ond cofiwch chi, Tom, fi'n chargio chi tro nesa."
Am y gair hwn edrychodd Marged arno yn ddigofus, ac ni wahoddodd ef i'r brecwest, a bu raid i'r clochydd ddioddef yr un dynged.
Llithrodd Enoc adref ar hyd un o'r ystrydoedd cefn, ac ni welodd y cawodydd rice yn cael eu tywallt ar bennau'r cwpl dedwydd, er mai ei rice ef ei hun ydoedd, oblegid deallodd, wedi hyn, mai Marged oedd wedi cyflenwi'r cymdogesau a'r rice y noson cynt i anrhydeddu ei phriodas. Mae fy mhennod eisoes yn rhy faith i roi lle i ddisgrifiad o'r brecwest. Digon ydyw dweud bod ymgom Jones y Plismon, a Didymus, cystal â phregeth," ac yn eu cwmni anghofiodd Enoc am dri chwarter awr ei holl "brofedigaethau." Ar ddydd ei phriodas, ni chafodd Marged ond un anrheg, a honno gan ei meistr—sef set o lestri te hardd, anrheg a barodd i'r priodfab tawedog wneud un sylw—yr unig air a gaed o'i enau drwy ystod y brecwest: "Mi drychith y rhai ene 'n neis yn y cwpwrdd cornel acw." Ond yn yr adroddiad maith a manwl a anfonwyd gan Didymus i'r County Chronicle, dywedid "fod yr anrhegion yn rhy luosog i'w henwi." A dyna oedd y ffaith yn ddiamau, oblegid y mae'n lled sicr na chyfrifodd Didymus bob cwpan a swser, plât, bowlen, a thebot oedd yn y set. Ar ôl brecwest yr oedd y byd yn galw ar Jones y Plismon a Didymus, i fyned ymaith, ac ymhen rhyw awr, ffarweliodd Enoc â Marged a Thom Solet, a aeth i dreulio eu mis mêl—neu, yn hytrach, eu diwrnod mêl, i'r Coach and Horses—tafarndy ryw filltir o'r dref. Yn y dafarn hon yr oedd Tom wedi dathlu ei holl briodasau, ac wedi arfer gwahodd ei gyfeillion a'i ewyllyswyr da—y pennaf ohonynt oedd Isaac y Delyn—i gydlawenhau ag ef.