Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/303

Gwirwyd y dudalen hon

Yn y Coach and Horses y buont y waith hon hyd hanner y nos, ac mewn handcart—felly yr adroddwyd i Enoc, ond ni ddarfu iddo chwilio i wirionedd yr hanes—mewn handcart y dygwyd Tom i'w gartref y noson honno—Robert Jones yn tynnu, a Marged yn gwthio o'r tu ôl. Nid y diwrnod hwnnw yn hollol y terfynodd ymdrafodaethau Enoc â Marged, canys ymhen ychydig ddyddiau cafodd hithau ei phrofedigaethau, ac at Enoc yr âi i adrodd ei chŵyn; ond dyna'r olwg olaf, am wn i, a gaiff y darllenydd ar Marged. Hwyrach hefyd, y dylwn ddweud bod Marged wedi byw'n hwy na Tom Solet. O'r diwedd yr oedd yntau wedi cyfarfod â'i drech.

Ar ôl y brecwest a'r miri y bore hwnnw, prin y mae eisiau dweud na theimlai Enoc mewn hwyl i fynd i'r siop, ac wrth edrych ar y bwrdd a gweled yno wmbreth o ymborth heb ei fwyta—yn unol â'i natur dda—anfonodd un o'r llanciau i wahodd hen wŷr a hen wragedd anghenus y gymdogaeth i'w dŷ, ac yno y bu yn eu porthi ac yn gwneud y te a'r coffi iddynt ei hun hyd nad oedd ond esgyrn moelion a briwsion wedi eu gadael. O'r diwedd gadawyd ef yn unig yng nghanol yr holl lanast—a dyna'r funud y cofiodd am y tro cyntaf ei fod heb yr un forwyn, a heb feddwl am ymorol am un. Ni wyddai pa le i droi ei ben a chywilyddiodd wrth ystyried mor ddisut ydoedd. Wedi iddo roi glo ar y tân, oedd ar ddiffodd, aeth Enoc i'r parlwr o olwg y llestri budron a'r llanast, gan obeithio gweled Jones y Plismon, ei swcwr ym mhob helbul, yn pasio. Credai y gallai Jones gael morwyn iddo ar unwaith. Edrychodd drwy'r ffenestr am oriau gan ddisgwyl gweled Jones, ond gallasai Jones fynd heibio lawer gwaith heb i Enoc ei weld, oblegid yr oedd ers meityn wedi anghofio am bwy yr oedd yn edrych a'i fyfyrdodau wedi eu meddiannu yn hollol gan Miss Trefor. Yr oedd yn dechrau prynhawnio, pryd y safodd o flaen ei ffenestr ferch ifanc drwsiadus a golygus. Edrychodd ar y ffenestr ac ar y drws—i fyny ac i lawr, fel pe buasai'n amau ai hwn oedd y tŷ a geisiai. "Pwy yn y byd mawr