Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/308

Gwirwyd y dudalen hon

pa fath olwg a gâi ar Susi, a pha beth a ddywedai hi wrtho. Gwnaeth lw yn ei fynwes na soniai air wrthi am yr hyn a fu rhyngddynt pan fuont yn siarad â'i gilydd ddiwethaf, oddieithr iddi hi sôn yn gyntaf. A chadwodd Enoc ei lw—oblegid cafodd rywbeth arall i feddwl amdano. Er nad oedd hi eto yn dywyll, yr oedd gorchudd ar bob ffenestr yn Nhŷ'n yr Ardd, a phan nesaodd Enoc at y tŷ, teimlai fod rhywbeth yn rhyfedd a dieithr yn yr olwg arno. Yr oedd yn rhy absennol ei feddwl i ganfod mai'r gorchudd ar y ffenestri oedd yn rhoi'r olwg ddieithr iddo. Curodd Enoc ar y drws, a daeth Kit i'w agor. Yr oedd llygaid Kit fel llygaid penwaig, ac ebe hi yn ddistaw:

"Mae hi wedi mynd, Mr. Huws."

"Pwy?" gofynnai Enoc.

"Meistres," ebe Kit.

"Mynd i b'le?" gofynnai Enoc.

"Mae hi wedi marw," ebe Kit.

"Wedi marw!" ebe Enoc, fel pe buasai wedi ei saethu gan y newydd, a phrin y gallai symud o'i unman. Nodiodd Kit a chaeodd y drws yn ddiesgeulus, ac arweiniodd Enoc i'r parlwr, lle'r oedd y Capten a Miss Trefor yn bendrist a distaw. Ar ei fynediad i'r ystafell, cododd Miss Trefor ar ei thraed, a heb ddweud gair, gwasgodd law Enoc yn dynn a nerfus, nes gyrru ias drwy ei holl gorff. A'r un modd y gwnaeth y Capten. Syrthiodd Enoc i gader wedi ei orchfygu gan ei deimladau, canys carai Mrs. Trefor yn fawr, er ei mwyn ei hun, heblaw ei bod yn fam i Susi, ac nid oedd wedi dychmygu bod ei hymddatodiad yn ymyl. Er mor ansylwgar fyddai Enoc yn gyffredin, ni allai beidio â chanfod bod y Capten yn drwm mewn diod. Edrychai'n swrth i'r tân, a rholiai dagrau mawr i lawr ei ruddiau.

Mae meddwdod yn gwneud dyn yn anwyliadwrus, ac mewn rhai amgylchiadau, yn foddion i ddwyn allan y tipyn daioni fydd wedi ei adael yn ei natur. Adwaenwn ddyn na welid byth mohono'n gweddïo ond pan fyddai