wedi meddwi! ac mi adwaen ambell un nad ydyw'n bosibl cael rhodd nac elusen ganddynt ond pan fyddant yn eu crap." Nid oedd hyd yn oed Capten Trefor, oedd wedi byw ers blynyddoedd ar dwyll a rhagrith, yn hollol amddifad o ryw fath o deimlad. Cyffyrddodd gwir deimlad Enoc â'r ychydigyn teimlad oedd yn y Capten, ac wylodd yntau. Yr oedd teimladau Miss Trefor ers wythnosau wedi eu tynhau hyd eu heithaf, ac yn gwrthod llacio, a'i hwyneb yn sefydlog, heb yr un plic ynddo, ac yn welw wyn, fel pe buasai wedi colli pob dyferyn o waed. Nid anhyfryd ganddi oedd gweled Enoc yn dangos y fath deimlad,—yr oedd ei mam ac yntau wedi bod yn gyfeillion mawr,—a theimlai rywfodd fel pe buasai wyneb Enoc yn gyfieithiad o iaith farw ei hwyneb hi ei hun. Y Capten, fel arfer, oedd y cyntaf i siarad, ac ebe fe:
"Dyma ergyd drom, Mr. Huws, yn enwedig i mi, ac mewn ffordd o siarad, ergyd farwol, oblegid pan fydd dyn wedi cyrraedd hynny ydyw, mae colli cymar ei fywyd, a hynny heb i ddyn feddwl bod y peth yn ymyl, i un yn f'oed i, yr un peth, mewn dull o ddweud, ag iddo golli ei fywyd ei hun, oblegid hi oedd fy mywyd a fy mhopeth, a braidd na ddwedwn—a mi ddwedaf—y dymunwn fynd i'r bedd gyda hi."
"Bydase chi a finne, 'nhad," ebe Susi, "mor barod ag oedd 'y mam, dyna fase'r peth gore i ni—mynd efo'n gilydd ond y mae arnaf ofn nad yden ni ddim. Yr oedd 'y mam yn caru Iesu Grist; a fedrwn ni ddeud hynny? Mae marw yn beth ofnadwy, 'nhad, os na fedrwn ni ddweud ein bod yn caru Iesu Grist."
"Mae hynny'n ddigon gwir, fy ngeneth, a gadwch i ni obeithio y gallwn ddatgan hynny pan ddaw'r adeg," ebe'r Capten, oedd, pa mor ddifrifol bynnag a fyddai'r amgylchiad, yn abl i ragrithio, a pha mor feddw bynnag a fyddai, oedd â'i feddwl yn weddol glir.
"Mae'r adeg," ebe Susi, yn awyddus i wneud y gorau o'r amgylchiad, canys yr oedd buchedd ei thad yn ei