phoeni yn dost, a rhyfeddai Enoc sut yr oedd hi'n gallu bod mor hunan—feddiannol: "Mae'r adeg, fel y gwyddoch, 'nhad, yn ansicr, fel y bu gyda 'mam."
"Mae'r Ysgrythur Lân yn ein dysgu am hynny, ac y mae amryw ymadroddion yn dyfod i'm meddwl y funud hon," ebe'r Capten.
"Ai'n sydyn, ynte, yr aeth eich mam yn y diwedd, Miss Trefor?" gofynnai Enoc.
"Yn hollol sydyn a diddisgwyl, Mr. Huws," ebe Susi. "Ie, yn hollol sydyn, ond gwnaethoch chwi a minnau ein gore iddi," ebe'r Capten.
"Ddaru mi ddim gwneud fy ngore iddi, 'nhad, a faddeua i byth i mi fy hun am f'esgeulustra. Yr oeddwn yn meddwl nad oedd yn ddim gwaeth nag oedd ers dyddiau, a gadewais hi am ddeng munud i ysgrifennu llythyr, ac erbyn i mi fynd yn ôl, yr oedd hi wedi marw—heb i mi gael gwneud dim iddi—dim cymaint â gafael yn ei llaw fach annwyl i'w helpio i farw. O! mor greulon mae o'n ymddangos iddi farw heb neb efo hi,—mae o'n 'y mwyta i tu mewn."
"Ewyllys yr Arglwydd, fy ngeneth," ebe'r Capten, "oedd cymryd ei was Moses ato'i hun heb un llygad yn gweled hynny, a'r un modd efo'ch mam."
"Ie," ebe Susi, gyda cholyn yn ei geiriau, "felly y cymerwyd Moses, tra'r oedd y bobl yn pechu, a hwyrach mai felly yr oedd yma."
"Mae yn ofid mawr i mi, Miss Trefor," ebe Enoc, na chefais weled eich mam cyn iddi farw."
"Sut y bu hynny, Mr. Huws? beth ydoedd y rheswm am eich holl ddieithrwch?" gofynnai'r Capten.
"Ddaru neb ohonom feddwl," ebe Susi, er mwyn cuddio anhawster Enoc i ateb, "fod 'y mam mor agos i angau. 'Does yma brin neb wedi ei gweled ond Mr. Simon a'r doctor. Mae'n dda iawn gen i 'ch bod chi wedi dwad yma heno, Mr. Huws, achos wn i ddim am y trefniadau y bydd raid edrych atynt ar amgylchiad fel hwn, ond mi wn y gwnewch chi, Mr. Huws, ein