Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/312

Gwirwyd y dudalen hon

oedd rhyngoch chwi a Mrs. Trefor, ac, yn wir, fy rhwymau personol i chi, ni fedraf ddweud, No, wrthych chwi, Mr. Huws, ar y telerau nad oes neb i gael gwybod hyn."

"Diolch yn fawr i chwi," ebe Enoc, "ac yrwan, mi af ynghylch y trefniadau, a pheidiwch chwi â phryderu dim."

Ceisiodd y Capten godi i ysgwyd llaw ag Enoc, ond syrthiodd yn ôl i'w gadair. Gwelodd nad oedd ei feddwdod yn guddiedig, ac ebe fe:

"Mr. Huws, maddeuwch i mi, yn fy mhrofedigaeth chwerw yr wyf wedi cymryd dau (ar bymtheg, a ddylasai ei ddweud) lasaid o wisgi, a thrwy nad ydwyf yn arfer llawer â fo, y mae wedi effeithio arnaf. Mi wn y gwnewch faddau i mi am y tro,—mae fy mhrofedigaeth yn fawr."

"Ydyw," ebe Enoc, " ac mae'n ddrwg gennyf drosoch, ond goddefwch i mi fod yn hy arnoch—cedwch oddi wrth y diodydd meddwol—am rai dyddiau, beth bynnag —mae gweddeidd-dra yn gofyn hynny."

"Quite right, mi wnaf; nos dawch, Mr. Huws bach," ebe'r Capten.

Ar ôl canu nos dawch â Miss Trefor, aeth Enoc ymaith; ac erbyn hyn yr oedd ganddo ddigon ar ei feddwl,—y forwyn newydd oedd i ddyfod i'w dŷ erbyn naw o'r gloch, a chario allan yr holl drefniadau ynglŷn â chladdedigaeth Mrs. Trefor.

"Susi," ebe'r Capten, "rhowch eich meddwl yn esmwyth, fe ofala Mr. Huws am yr holl drefniadau. Ac yrwan, ewch i'ch gwely, fy ngeneth. Fedra i fy hun ddim meddwl am wely heno—mi daflaf fy hun ar y soffa. Nos dawch, my dear girl."

Gadawodd Susi yr ystafell gydag ochenaid, ac fe'i "taflodd" y Capten ei hun ar y soffa, a chysgodd yn drwm. Wedi i'r "gwragedd" orffen rhyw seremoni ynfyd (sydd yn parhau hyd y dydd heddiw mewn amgylchiadau o'r fath) ar y corff marw, a myned ymaith, aeth Susi i'w gwely, gan gymryd Kit gyda hi i gysgu, oblegid meddyliodd na allai fod ar ei phen ei hun y noson