Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/316

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XLIII

Ymson Capten Trefor

Yr oedd Miss Bifan wedi cymryd ei lle yn Siop y Groes cyn i Enoc gofio nad oedd wedi gofyn dim am ei charitor, na hyd yn oed ymorol i bwy 'r oedd hi'n perthyn, na lle y buasai hi'n gwasanaethu ddiwethaf. Ac, erbyn hyn, yr oedd yn rhy hwyr i ymholi. "A pha bwys i bwy y mae hi'n perthyn na ile bu hi ddiwethaf," ebe Enoc, os etyb hi 'r diben i mi?" A heblaw hynny, yr oedd gan Enoc ddigon i feddwl amdano heb golli pum munud i feddwl am ei housekeeper newydd. Yr oedd ef wedi ymgymryd â chario allan y trefniadau ynglŷn â chladdedigaeth Mrs. Trefor, yr hyn a wnaeth heb arbed cost na thrafferth. Yn y cynhebrwng gweinyddwyd wrth y tŷ gan Mr. Simon, ac yn yr eglwys a'r fynwent gan Mr. Brown, a thystiai'r Capten Trefor fod popeth wedi pasio yn hapus dros ben. Ymhen diwrnod neu ddau, ar ddymuniad y Capten, anfonwyd yr holl filiau i mewn, ac yn absen Miss Trefor, cyfrifodd Enoc yr holl gost a chyflwynodd yr arian i'r Capten. Yna aeth y Capten o gwmpas a thalodd i bawb. Wrth setlo pob bil dywedai'r Capten ei fod yn synnu ei fod mor fychan—ei fod wedi disgwyl y buasai yn gymaint arall, ac yn wir, "mewn ffordd o siarad," pe buasai'n gymaint deirgwaith na fuasai ef yn grwgnach. Ac felly y dywedai wrth bob un wrth dalu'r arian, yr hyn a barai i'r derbynnydd—yn enwedig y dyn a wnaeth yr arch—ofidio na fuasai wedi codi chwaneg; a dywedai, wedi i'r Capten droi ei gefn: "Waeth be ddeudith pobol, y mae gan y Capten ddigon o bres."

Ymhen ychydig amser anghofiodd pawb—oddieithr rhyw ddau neu dri—fod y fath un â Mrs. Trefor erioed wedi bod yn y byd. Pregethodd Mr. Simon bregeth angladdol sych ei gwala, a chanodd Eos Prydain a'i gôr y Vital Spark, ac yna nid oedd ond un yn gwir deimlo fod pob man yn wag heb Mrs. Trefor. Bu agos i mi