Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/317

Gwirwyd y dudalen hon

anghofio hefyd i un o feinars Coed Madog, oedd fardd, ac a adnabyddid wrth y ffugenw persain Llew Rhuadwy, anfon dau englyn i'r County Chronicle ar farwolaeth Mrs. Trefor; ond y mae'n rhaid i mi ddweud nad oeddynt yn fwy tebyg i englynion nag ydyw buwch i gogwrn. Mae'n wir eu bod y peth gorau a allai'r Rhuwr ei gynhyrchu, achos bu dair noswaith yn gwneud yr englynion, ac yr oeddynt wedi rhoi bodlonrwydd mawr i'w gydweithwyr, a hyd yn oed i'r Capten, a phan gyntaf y gwelodd ef y Llew rhoddodd iddo ddarn deuswllt.

Ac felly y terfynodd Mrs. Trefor ei gyrfa, ac ni chymerodd i'r Capten fawr o oriau i fwrw ei hiraeth. Ac yn awr yr oedd ganddo hamdden i roi ei holl sylw i Waith Coed Madog. Ond yr oedd un peth yn ei flino, ac yn ei flino yn fawr. Yr oedd ei sefyllfa rywbeth yn debyg i hyn Yr oedd yn dlawd a llwm. Credai, erbyn hyn, beth bynnag y bu yn ei gredu o'r blaen, nad oedd fymryn o obaith am blwm yng Nghoed Madog. Ac eto Coed Madog oedd ei unig swcwr; a phe darfyddai hwnnw, ni byddai ganddo afael ar swllt. Gwyddai ei gydwybod —os oedd ganddo un—mai arian Enoc Huws oedd yn cario'r Gwaith ymlaen, oblegid yr oedd Mr. Denman ers tro wedi methu ateb y galwadau, er ei fod mewn enw yn gyd-berchennog. Tybiai'r Capten hefyd ei fod yn ddigon craff i ganfod mai'r unig reswm fod Enoc yn parhau i wario cymaint ar y Gwaith oedd ei serch at Miss Trefor ei ferch—a'r munud y deuai rhyw anghaffael ar hynny y byddai ef a'i Goed Madog wedi mynd i'r gwellt. Yn wir, yr oedd ef wedi ofni pan beidiodd Enoc am amser ag ymweled â Thŷ'n yr Ardd fod yr aflwydd wedi dyfod arno, a dyna pam yr ymollyngodd i yfed mwy nag arfer. Ond yn awr ymgysurai fod ei ferch ac Enoc yn ymddangos ar delerau hynod gyfeillgar. Ystyriai'r Capten, os oedd ei ferch ac Enoc Huws yn debyg o briodi, y byddai, wrth gario'r Gwaith ymlaen, yn tlodi ei fab yng nghyfraith, ac felly, "mewn ffordd o siarad," yn ei dlodi ei hun, ac yn taflu arian i ffwrdd