y byddai'n dda iddo wrthynt ryw ddydd i gadw corff ac enaid ynghyd. Yr adeg honno rhoesai'r Capten lawer am wybodaeth sicr am wir berthynas ei ferch ag Enoc Huws. Gyda'r amcan o gael allan a oedd Susi ac Enoc yn caru, arferodd y Capten bob dyfalwch a gwyliadwriaeth. Ymddarostyngodd gymaint â gwrando wrth dwll y clo pan fyddai Miss Trefor ac Enoc mewn ystafell ar eu pennau eu hunain, a hyd yn oed ymguddio yn yr ardd pan fyddai Enoc yn ymadael. Ar fwy nag un achlysur, pan fyddai'r Capten yn ymguddio yn yr ardd, siaradai ag ef ei hun i'r perwyl canlynol:
"Wel, Mr. Huws, mae hi tua'r adeg y byddwch chwi yn gyffredin yn troi adref—ac yr ydych, fel rheol, yn lled exact—ac mae Susi yn siŵr o ddwad i agor y giât i chi, ac i ddweud nos dawch. A phe gwelwn i'chi, syr, yn rhoi cusan iddi—a gwyn fyd na welwn hynny—mi ddywedwn wrthych yfory rywbeth fel hyn: Mr. Huws, mae fy ngobeithion wedi troi allan yn rhai gau—nid ydwyf ond dyn ffaeledig, ac yr wyf wedi fy siomi—ac y mae arnaf ofn nad oes obaith i ni gael plwm yng Nghoed Madog, a ffolineb fyddai i chwi a minnau wario chwaneg o arian. Yr wyf yn teimlo bod gonestrwydd yn galw arnaf i ddweud hyn wrthych. Ar yr un pryd, os ydych yn awyddus i gario ymlaen, mi sinciaf fy siawns gyda chwi, er—mae'n rhaid i mi gyfaddef, nad ydyw fy mhwrs lawn mor hir â'r eiddoch chwi, ac yr wyf eisoes yn dechre gweld ei waelod. Os cymerwch fy nghyngor i, yr wyf yn meddwl yn onest mai rhoi'r Gwaith i fyny fyddai ore.'"
Yn y man deuai Enoc allan a Susi gydag ef. Siaradent am y tywydd, ysgydwent ddwylo yn gyfeillgar, dywedent nos dawch, a dyna'r cwbl, a melltithiai'r Capten ddydd ei enedigaeth. Onid oedd mwy na chyfeillgarwch rhwng ei ferch ac Enoc, teimlai'r Capten mai ei ddyletswydd oedd cario'r Gwaith ymlaen cyhyd ag y medrai. Ond yn ei fyw ni allai beidio â chredu bod rhyw ddealltwriaeth rhwng y bobl ieuainc, ac os felly, gresyn oedd i