Enoc wario ei arian yn ofer, a'i ddwyn ei hunan yn y man, efallai, i sefyllfa na allai fforddio priodi. Wedi cryn ymdrech meddwl a phendroni nid ychydig, pender—fynodd y Capten ofyn y cwestiwn yn syth i'w ferch. Ac un noswaith pan oedd hi ac yntau yn y parlwr, ac wedi gwlychu ei benderfyniad gyda dogn go lew o wisgi, ebe'r Capten:
"Susi, mae rhywbeth, ers tro, yn pwyso'n drwm ar fy meddwl, ac yn peri tipyn o bryder i mi—yn wir, yn peri i mi fyw megis rhwng ofn a gobaith, ac, mewn ffordd o siarad, yn f'anghymwyso i ryw raddau i roddi'r sylw a ddylwn i'm gorchwyliaethau—gorchwyliaethau, fy ngeneth, fel y gwyddoch, sydd yn gofyn fy holl sylw."
Be ydi hynny, 'nhad?" gofynnai Susi.
"Wel," ebe'r Capten, mae o'n gwestiwn delicate i'w grybwyll, mi wn, ond y mae'ch mam wedi'n gadael—a gwyn ei byd—ac oherwydd hynny fe ddylai fod mwy o confidence rhyngoch chwi a minnau, fy ngeneth. Y cwestiwn ydyw hwn, a mi wn y gwnewch ei ateb yn onest a digêl: A oes rhywbeth rhyngoch chwi ac Enoc Huws? Peidiwch ag ofni ateb, Susi, oblegid mi wn sut bynnag y mae pethau, eich bod wedi gwneud yn iawn."
Rhywbeth rhwng Mr. Huws a fi ym mha fodd, 'nhad?" gofynnai Susi.
"Wel," ebe'r Capten, "yr oeddwn yn disgwyl y buasech yn deall fy nghwestiwn heb i mi orfod ei sbelio, ond y peth yr wyf yn ei ofyn ydyw hyn, ac fel tad, yr wyf yn ystyried bod gennyf hawl i'w ofyn: A ydych dan amod i Mr. Huws?
Amod i beth, 'nhad?" gofynnai Miss Trefor.
Amod i'w briodi, wrth gwrs; yr ydych yn deall fy meddwl yn burion, Susi, ond eich bod yn dymuno fy nhormentio," ebe'r Capten yn ddigon anniddig.
"Gwarchod pawb! na, wnes i erioed amod â Mr. Huws, nac â neb arall," ebe Susi yn benderfynol.
"A 'does dim dealltwriaeth ddistaw rhyngoch chi'ch dau mai i hynny y daw hi rai o'r dyddiau nesaf?" gofynnai'r