creu edmygedd ynom am eu bod wedi cael nerth i lynu wrth grefydd a pheidio â mynd i'r Eglwys neu anghofio'u Cymraeg a mynd at yr achos Saesneg.
Yr oedd i'r Capten a Mrs. Trefor ferch—eu hunig-anedig. Susan Trefor oedd eilun ei thad a channwyll llygaid ei mam. Dygwyd hi i fyny yng nghanol moethau llwyddiant ei thad, a chafodd holl fanteision yr addysg oedd i'w chael yn yr ardal y dyddiau hynny. Nid wyf yn cymryd arnaf, ar hyn o bryd, ddweud pa ddefnydd a wnaeth hi o'r manteision. Ond yr wyf yn cofio'n burion, pan oeddwn i yn hogyn, y golygid mai Susan Trefor oedd y ferch ieuanc fwyaf prydweddol, ffasiynol, a dysgedig, a'r fwyaf unapproachable a berthynai i'n capel ni. Hi oedd safon ein holl ferched ieuainc. Hi (ar ôl marw Abel Huws) oedd y gyntaf a smyglwyd yn gyflawn aelod heb ei holi. Ac y mae'n ffaith fod gwisg Miss Trefor wedi tynnu mwy o ddagrau o lygaid merched ieuainc y capel nag a dynnwyd gan yr holl bregethau a draddodwyd yn eu clyw yn y cyfnod hwnnw. Ychydig o bobl gyfrifol— hynny yw respectable—a berthynai i'n cynulleidfa—rhai ar eu gorau oeddynt agos i gyd. Oblegid hynny, prin y golygai Miss Trefor fod neb o "bobl y capel" yn gymwys gymdeithion iddi hi, ac nid oedd un o'n merched ieuainc mor uchelgeisiol ag ymgyrraedd at hynny. Ond caent y fraint o'i gweled ar y Sul, a mawrhaent y fraint. Yn ddigon naturiol, yr oedd yr ychydig a gawsai'r fraint o siarad â Miss Trefor yn edrych yn ôl at y troeon hynny fel y llygadau mwyaf heulog yn hanes eu bywyd. Nid âi Miss Trefor i'r Ysgol Sul, ond gwnâi iawn am hynny drwy roddi te rhad i blant bach tlodion, ac ar y cyfryw achlysuron, byddai hi ei hun hyd yn oed yn tywallt te i'r cwpanau, a dywedid ddarfod iddi fwy nag unwaith roddi ei llaw wen dan ên ambell hogyn bach pengrych yn garuaidd.
Dywedai rhai, oedd dipyn yn genfigennus, mai merch ieuanc benwag a ffolfalch oedd Miss Trefor—ymwybodol o'i phrydferthwch ac anymwybodol o'i diffygion. Ond