Capten, ac ychwanegodd: "Cofiwch, 'dydw i'n dweud dim yn erbyn y peth."
"Dim o gwbl, 'nhad, na dim tebygolrwydd i'r fath beth byth ddigwydd. Beth wnaeth i chwi feddwl am y fath beth?" ebe Susi.
"Wel," ebe'r Capten yn siomedig, "nid oeddwn yn meddwl bod y peth yn amhosibl, nac yn wir yn annhebyg, ond gan mai fel yna y mae pethau'n sefyll, purion; a mi wn nad ydyw o un diben i mi'ch cyfarwyddo i wneud fel hyn neu fel arall, mai eich ffordd eich hun a wnewch." "Mi geisiaf fy ngore wneud yr hyn sydd yn iawn, 'nhad, a'm penderfyniad ydi glynu wrthoch chi to the bitter end," ebe Susi.
"Bitter a fydd, y mae arnaf ofn, fy ngeneth," ebe'r Capten yn fyfyriol, ac yma y terfynodd yr ymddiddan, a diolchai Susi nad oedd ei thad wedi gofyn a oedd Enoc wedi ei gynnig ei hun iddi, oblegid buasai raid iddi ddweud y gwir, a gwyddai y buasai ei thad yn gynddeiriog wedi clywed y gwir.
Myfyriodd y Capten gryn lawer y noson honno. Gwenieithiai iddo'i hun bob amser ei fod yn adnabod y natur ddynol yn lled dda, ond yr oedd yn gorfod cydnabod bod ei ferch yn ddirgelwch iddo. Buasai'n cymryd ei lw fod rhywbeth rhyngddi hi ac Enoc Huws, ond yr oedd wedi methu. Ac eto teimlai'n sicr yn ei feddwl fod gan Enoc fwriadau gyda golwg ar Susi, ac ar yr un pryd yr oedd yn eithaf amlwg—oblegid ni ddywedai Susi gelwydd nad oedd ef wedi hysbysu ei fwriadau. A beth oedd meddwl y dyn? Os oedd wedi gosod ei fryd ar Susi, paham na ddywedai hynny wrthi, a darfod â'r peth?
"Oblegid," ebe'r Capten wrtho ei hun: "fyddai hi ddim gymaint ffŵl â'i wrthod o? Ac os byddai, mi 'i crogwn hi. A wyf wedi fy nhwyllo fy hun am gyhyd o amser gyda golwg ar fwriadau Mr. Huws? Mae'n bosibl. Hwyrach, wedi'r cwbl, fod medru deall hen lanc allan o'm lein i, er fy mod bob amser yn meddwl fy mod yn deall bron bopeth. A pha beth 'rwyf i'w