wneud? Mae'n ddrwg gennyf ysbeilio Mr. Huws o'r holl arian yma, ac eto os rhown Goed Madog i fyny mi fyddaf ar y clwt. Ac y mae'n eglur ddigon y bydd i Enoc Huws dorri ei galon a thaflu'r cwbl i fyny—fedr o ddim dal—mae'n amhosibl iddo ddal—i wario hyd os na ddaw rhywbeth i'r golwg. Ac o ba le y daw? Yr oeddwn wedi meddwl y buasai Mr. Huws wedi'i gynnig 'i hun i Susi cyn hyn,—yn wir, y buasent wedi priodi ac arbed yr holl drafferth hon i mi, achos mi gawswn felly damaid yn eu cysgod. Ond mi welaf erbyn hyn y bydd raid i mi drio ffurfio rhyw fath o gwmpeini i Goed Madog—mae'n amhosibl i un dyn ddwyn yr holl gost, ac i minnau gael cyflog. Mae cael machinery a phethau eraill allan o'r cwestiwn—fe âi holl arian Mr. Huws—bob dimai goch, i gael y pethau angenrheidiol, a fedra i ddim ffrwytho i ofyn iddo wneud hynny, bydae o gymaint o ffŵl â gwneud er i mi ofyn. A fyddai'r cwbl da i ddim yn y diwedd. Ond y mae'n rhaid gwneud rhywbeth i gael tamaid. Ac am Denman, druan, y mae ef fel finnau cystal â bod up the spout unrhyw ddiwrnod. 'Does dim arall amdani, ond ceisio codi cwmpeini a thyngu bod yng Nghoed Madog faint fyd fyw fynnom o blwm, ond bod eisiau arian i fynd ato. Pe cawn i ryw ddeg neu ddeuddeg o rai go gefnog, mi allwn gario ymlaen am blwc eto, a 'does neb ŵyr yn y cyfamser beth a ddigwydd hynny ydyw yn rhywle arall, achos 'does yno fwy o blwm yng Nghoed Madog nag sydd ym mhoced 'y ngwasgod i. Bydawn i yn gallu ffurfio cwmpeini fe ysgafnhai hynny dipyn ar faich Mr. Huws achos mae'n ddrwg gen i robio cymaint arno, p'run bynnag a briodith o Susi ai peidio. Rhaid i mi roi Sem Llwyd ati i bylafro am ragolygon Gwaith Coed Madog, ac felly yn y blaen, ac felly yn y blaen. Mae Sem yntau, ar ôl deall 'i bod hi dipyn yn galed arna i, a'm bod yn analluog i iro ei ddwylo fel y bu, yn ddigon independent a sychlyd, ond rhaid iddo wneud yn ôl fy nghyfarwyddyd. Mi wn ei fod yn gwybod fy secret, y
Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/321
Gwirwyd y dudalen hon