siampal o dda oedd o hefyd, a 'doedd ene ddim cymin ag un o'r pygethwrs â'i ben yn 'i blu,—'roedden nhw i gyd wedi stripio ati o ddifri calon. Ond yr oedd ene bygethwr yn yn capel ni rw fis yn ôl—dyn nobl a threfnus anwêdd hefyd oedd o, a graen da ods arno, ond yr oedd o'n pygethu mor ddigalon fel y deudes i wrth Barbra acw wrth fynd o odfa'r bore, Wyddost ti be, Barbra, 'roedd y dyn ene yn deud pethe da iawn, ond mi gymra fy llw 'i fod o wedi colli'i wraig—a hynny yn bur ddi—weddar, 'roedd yn hawdd gweld arno, a maʼn ddrwg iawn gen i drosto.' Ond erbyn i mi holi Dafydd Dafis, mi ges allan, a 'roedd reit dda gen i glywed hefyd fod 'i wraig a'i blant o'n fyw ac yn iach, a bod y dyn yn werth 'i filoedd. Ond faswn i byth yn meddwl hynny wrth i wrando fo. Dene beth arall fydda i'n licio mewn pygethwr, 'i fod o'n rhoi pwt o stori i ni 'rwan ac yn y man, 'run fath â'r dyn ene o sir Drefaldwyn ne' rwle o'r Sowth ene.
Be ydi enw fo? Hoswch chi—o ie,—Jophes Tomos. Wyddoch chi be, dene'r pygethwr clenia glywes i erioed â'm dwy glust—mi fedrwn wrando arno am byth. Mae gynno fo faint fyd fyw fynnoch chi o straes, a phob un ohonyn nhw i'r dim, a ma gynno fo gymin ohonyn ym mhob pregeth, a phob un yn ffitio mor dwt, fel y bûm i'n dowtio weithie oedd o'n peidio â gneud rhai ohonyn nhw—'dase nhw waeth am hynny. Deudwch i mi be ydi'r achos fod y dyn ene heb i 'neud yn Ddoctor Difein? Ydi pobol y Merica ene ddim wedi clywed amdano fo? Ma ene rhw fistêc yn rhywle yn siŵr i chi. A mi glywes Didymus yn deud, a ma o'n gwybod popeth agos—fod ene rai sy wedi cael y teitl o Ddoctor Difein, wedi 'i gael o mewn mistêc. Ond fasen nhw ddim yn gneud mistêc wrth i roi o i'r hen Jophes, achos ma rhai callach na fi yn deud 'i fod o'n un o'r rhai gore. Ond dene oeddwn i'n 'i ddeud,—mi fydda i'n licio pygethwr tebyg iddo fo, a mi gerddwn beder milltir heno i'w glywed o. Dene beth arall fydda i'n licio mewn pygethwr ydi, fod o'n mynd yn well at y