diwedd o hyd. Mi glywch ambell bygethwr 'run fath yn y diwedd ag yn y dechre. 'Dydi hynny ddim yn reit yn ôl y meddwl i. Fe ddyle popeth fod yn well yn 'i ddiwedd nac yn 'i ddechre, ne pa iws dechre yt ol? Dyma fi, 'rwan, wrth ddechre —Ond rhag i chi flino arna i, dene'r peth dwaetha ddeuda i ydw i'n licio mewn pygethwr ydi—fod o'n sôn digon am Iesu Grist. Wn i fy hun ar chwyneb y ddaear be ma pregeth da, os na fydd yn sôn am Iesu Grist, a ma Dafydd Dafis yr un feddwl a fi ar y pen ene, ac os gŵyr rhwfun be ydi pregeth, y fo ŵyr. Ac eto yn y dyddie yma, mi glywch ambell bregeth heb sinc na sôn am Iesu Grist, ond tipyn ar weddi. Ond efo hynny y cychwynnes i, fod Mr. Simon yn pygethu yn rhy ddyfn o lawer i fy sort i."
Prin yr oedd disgrifiad Thomas Bartley o Mr. Simon fel pregethwr yn gywir, canys nid oedd ei arddull yn neilltuol o "ddyfn." Dichon bod dull diweddaraf. Mr. Simon o bregethu yn rhy "ddyfn" i Thomas, oblegid yr oedd yn ffaith fod ein gweinidog ers tro bellach—gan roddi heibio ganu pregethu, a chan gyfeirio ei sylwadau yn fwyaf arbennig at y bobl ieuainc—wedi traethu cryn lawer ar evolution, negyddiaeth, ac anwybodyddiaeth, ac wedi sôn tipyn am agnosticiaeth, gyda'r amcan clodwiw o baratoi a chadarnhau meddyliau ieuenctid Bethel ar gyfer y llanw dinistriol oedd ar fin gorchuddio Cymru grefyddol. Yr oedd ef hefyd wedi gosod o'u blaenau gyda thipyn o fedr hefyd wrth—ddadleuon anghredwyr, ac wedi eu cnocio yn dipiau mân. Weithiau ffurfiai Mr. Simon fath o ymrysonfa, gan ddwyn anghredwr—un o'r rhai cryfaf—i'r ring; ac wedi rhoi pob mantais iddo, megis rhoi'r tir uchaf iddo, a gosod ei gefn at yr haul, dygai Paul i'r cylch fel ei wrthwynebydd, gan gymryd arno ei hunan edrych am gael chwarae teg a bod yn fath o referee neu umpire. Er bod Mr. Simon, fel gŵr canol, yn gwneud ei orau i fod yn amhleidgar, eto, ar derfyn pob round, yr oedd yn hawdd canfod ei fod yn dal Paul ar ei lin i roi gwynt