Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/327

Gwirwyd y dudalen hon

cherrig mân, er mawr ddifyrrwch. Pan ddaeth y gorchymyn yr adfywiodd pechod. Pwy oedd y brenin hwnnw a waharddodd i'w ddeiliaid ysmygu? Cynyddodd nifer yr ysmygwyr yn enfawr y flwyddyn honno! Yr oedd amcan Mr. Simon, fel eiddo'r ysgolfeistr, yn ganmoladwy, ond y mae ffrwyth y pren gwaharddedig bob amser yn ddymunol a theg yr olwg. A bod yn onest, rhaid dweud. nad oedd gweinidogaeth Mr. Simon yn gyfaddas iawn i gynulleidfa Bethel, ac er y dangoswyd pob caredigrwydd tuag ato, ac na fu hyd yn oed Didymus, er chwerwed oedd ei natur, yn un math o graig rwystr iddo, dechreuodd Mr. Simon yn lled fuan deimlo'n anesmwyth. Gwelodd nad oedd yn Bethel ddigon o ddealltwriaeth i werthfawrogi ei dalentau. Ac nid hyn oedd ei siomedigaeth fwyaf. Nid peth anghyffredin, ymresymai Mr. Simon, oedd i ddyn fod heb ei adnabod a'i fawrhau gan gynulleidfa o weithwyr diddysg; ond buasai'n disgwyl i'r Cyfarfod Misol—lle'r oedd hufen cymdeithas grefyddol y sir wedi ymgyfarfod—roddi pris ar ei athrylith. Ond yr oedd hyd yn oed y Cyfarfod Misol—ar ôl rhoddi derbyniad croesawus iddo ar ei ddyfodiad cyntaf yno—wedi ei anghofio'n llwyr bron. Nid cysurus oedd hyn i ddyn ymwybodol ei fod yn feddiannol ar dalentau a galluoedd meddyliol uwchlaw'r cyffredin, oblegid hymbygoliaeth ydyw dweud mai pobl eraill sydd i farnu beth ydyw teilyngdod dyn a pha safle a ddylai gael mewn cymdeithas. Pwy sydd yn adnabod dyn cystal ag ef ei hun? Pwy sydd yn gwybod hyd, lled, uchder, a dyfnder ei adnoddau fel ef ei hun?

Yn ystod ei arhosiad yn Bethel, cadwodd Mr. Simon ei gymeriad yn lân, a gallasai ddiolch am hynny, i ryw raddau, i Eos Prydain. Wedi deall ei fod yn ymweled yn lled fynych â Thŷ'n yr Ardd, rhoddodd yr Eos yr awgrym iddo i fod ar ei wyliadwriaeth rhag i'r Capten ei andwyo. Parodd hyn i Mr. Simon fyfyrio ar y peth, a gwelodd nad dianghenraid oedd yr awgrym. Oblegid wedi deall nad oedd Mr. Simon yn ddirwestwr, ni phallai'r