Capten gymell gwirod iddo bob tro yr âi yno, ac argyhoeddwyd Mr. Simon, yn y man, ei fod yn gwneud hyn gyda'r amcan o beri iddo, ryw ddydd, dorri'r drol, ac felly ei ddinerthu i roddi unrhyw gyngor i neb, na gweinyddu disgyblaeth ar neb a fyddai'n dueddol i yfed gormod. Yn ffortunus, gwelodd Mr. Simon hyn mewn pryd, ac er ei fod yn rhoi pris mawr ar ryddid, ac yn arfer edrych ar lwyrymwrthodwyr fel y bobl fwyaf anghymedrol yn y byd, credodd mai ei ddyletswydd fel gweinidog yr Efengyl oedd cymryd yr ardystiad. Ond, fel yr awgrymwyd yn barod, methai Mr. Simon weled fod digon o scope iddo yn Bethel, nac, yn wir, yng Nghymru, a phenderfynodd fyned i'r America. Pan wnaeth ei benderfyniad yn hysbys i'r eglwys, rhoddwyd credyd cyffredinol i'w ddoethineb, ac amlygwyd cryn lawer o alar (gan Eos Prydain a'i gôr). Diddanai'r Eos ei hun a'i gyfeillion y caffai Mr. Simon, yng ngwlad fawr y Gorllewin, ei wneud yn Ddoctor of Music, os nad yn Ddoctor mewn Diwinyddiaeth hefyd. Cymerodd yr Eos hefyd drafferth i sicrhau Mr. Simon y buasid yn gwneud tysteb iddo, oni bai fod cyflwr masnachol y gymdogaeth mewn ystad mor druenus o isel, a chynifer o bobl allan o waith. Felly nid oedd gan Mr. Simon ddim i'w wneud ond cymryd yr ewyllys am y gallu.
Mynegwyd yng nghorff yr hanes hwn y byddai Eos Prydain a'i gôr, pan fyddai un o aelodau eglwys Bethel wedi "darfod"—ymadrodd a ddefnyddid am un wedi marw—y byddai'r Eos a'i gôr yn canu Vital Spark yn y capel; ac yng nghyfarfod ymadawol Mr. Simon, cyn iddo gychwyn i'r America, tybiodd yr Eos—yn gymaint â bod Mr. Simon wedi "darfod" ag eglwys Bethel—nad amhriodol a fyddai canu Vital Spark—â'r hyn y cydsyniwyd. Ond gwrthododd yr Eos yn bendant aralleiriad Didymus o un pennill, oedd fel y canlyn:
Lend, lend your wing,
I sail; I fly;
Oh, wind, where is thy victory?
Oh sea, where is thy sting?