prin y gallai hynny fod yn wir, a phrin y mae eisiau gwell rheswm dros ddweud fel yna na bod Wil Bryan yn edmygydd mawr ohoni. Nid un oedd Wil i edmygu hoeden ddisynnwyr, ac ni byddai ef byth yn blino sôn am "Sus," chwedl yntau. Gallai Wil oddef i ni yr hogiau ddweud y peth a fynnem am Capten Trefor, ac weithiau, ni phetrusai ef ei hun siarad yn frwnt amdano, am ei fod wedi perswadio ei dad i "speciletio nes mynd yn dlawd. Ond ni feiddiai un ohonom sibrwd casair am Sus," heb ei osod ei hun yn agored i ddangos mai un llwfr ydoedd, neu ynteu ddangos pa berffeithrwydd a gyraeddasai yn y noble art of self-defence. Ac y mae gwir arall y dylid ei ddweud yn y fan hon, sef nad oedd Miss Trefor, hithau, yn diystyru Wil. Dywedodd Wil ei hun wrthyf yn gyfrinachol un tro: "Yr wyf yn dallt y natur ddynol yn ddigon da i dy sicrhau nad small beer ydw i yng ngolwg Sus." Er, fel y mae Rhys Lewis yn yr Hunangofiant yn adrodd geiriau Wil " nad oedd dim byd definite rhyngddo ef a Sus," eto, yr oedd y peth yn eithaf hysbys i ni, fechgyn y capel, fod gan Wil ddylanwad mawr arni. Gwyddem hefyd fod y Capten, gyda'i lygad barcud, wedi canfod nad annerbyniol oedd Wil gan ei ferch, a'i fod wedi dangos ei anfodlonrwydd hollol i hynny. Pan soniais un tro am hyn wrth Wil, ebe fe, gyda'i rwyddineb arferol:
Fel hyn y mae hi, wyddost; mae'r Capten, ar ôl i 'nhad gario'i holl bres i Bwll y Gwynt, yn gwybod yn o lew be ydi hi o'r gloch yn ein tŷ ni—fe ŵyr o'r gore nad oes acw fawr o obeth am five hundred a year. Mae o'n meddwl, wyddost, y meder o 'neud gwell match, ac mewn ffordd, fedra i mo'i feio fo. Ond bydae hi yn dwad i pitched battle rhyngof i â'r Capten am Sus, mae gen i idea go lew sut y trôi pethe.