chithau. Yn wir, 'chlywais i erioed mo'r chairman yn cwyno pan fyddwn wedi rhoi clamp o ddarn at ei araith."
"Wyddoch chi be, faswn i ddim yn licio rhw fusnes fel yna,—'dydi o ddim yn edrach yn syth a gonest, rwsut," ebe Dafydd.
"Pawb at y peth y bo—'pob tyladaeth rhag tlodi,' Dafydd Dafis. Gwaith reporter ydyw dyfeisio beth fydd ym meddwl dyn, a sut y buasai yn dweud ei feddwl pe medrai; ac os llwydda i ddirnad ei feddyliau annywededig, popeth yn dda," ebe Didymus.
Ond ffasiwn report ydech chi am 'i roi o gyfarfod ymadawol Mr. Simon?" gofynnai Dafydd.
"Wn i ar wyneb y ddaear," ebe Didymus. "Rhaid i mi ysbladdro rhywbeth, ac fe fuasai yn dda gennyf gael dweud wmbreth o'r hyn sydd ar fy meddwl, ac adolygu tipyn ar y cyfnod y bu Mr. Simon yn mynd a dyfod yn ein plith. Ond y mae un peth yn peri i mi betruso, a dyna'r rheswm i mi ddyfod yma heno. 'Ddymunwn i er dim a welais erioed niweidio'r fugeiliaeth yn y sir. Mae digon o ragfarn yn ei herbyn eisoes, a mi wn bydawn yn dweud fy meddwl yn syth yn y papur, y creai hynny fwy o ragfarn. Ond yn onest 'rwan, Dafydd Dafis, a atebodd bugeiliaeth Mr. Simon un amcan da tra y bu o yma?
"Do, yn ddiau," ebe Dafydd, "fe argyhoeddodd agos bawb, 'rwyf yn credu, o'r ffolineb o neidio i ddyn na ŵyr neb ddim amdano, a mi fu yn foddion, mi obeithia, i ni sicrhau dyn da y tro nesaf."
"Mi obeithiaf innau mai gwir a ddwedwch," ebe Didymus. "Mae dynion o stamp Mr. Simon—a mae llawer ohonynt yn diraddio ac yn damnio'r fugeiliaeth yn ein gwlad, ac yn lleihau cariad y bobl at y rhai sydd wir fugeiliaid. Yr wyf mor selog dros fugeiliaeth eglwysig ag Edward Morgan, Dyffryn, ond yr wyf yn ofni—nid bod gormod o gymell ar yr eglwysi i gael bugeiliaid—ond rhy fychan o gymell pa ryw fath ddynion a ddylent hwy fod. Yn y cychwyn cyntaf, mi gredaf, y mae'r