gwddw fel yr hen gewri gynt. Pa beth a gymerasai John Jones, Tal-y-sarn, am wisgo'r goler hon? Buasai'n ei gyfrif ei hun yn euog o dân uffern pe rhoesai hi am ei wddf."
"Gwarchod pawb! tewch, Thomas, yr ydech chi'n mynd yn fwy rhyfygus bob dydd," gwaeddai Dafydd.
"Geiriau gwirionedd a sobrwydd yr wyf yn eu hadrodd, Dafydd Dafis," ebe Didymus. "Beth, yn enw pob rheswm, sydd yn gofyn am i bregethwr wisgo'n wahanol i bobl eraill. Pwy oedd yn gwawdio, ddeugain mlynedd yn ôl, fân guradiaid Cymru am eu gwisgoedd offeiriadol? Onid gweinidogion Ymneilltuol?"
Wel, wel, Thomas bach," ebe Dafydd, "yr ydech chi'n tramgwyddo wrth bethe bychain iawn, a phe basech chi'n ddyn dall, fel y Bartimeus hwnnw, mi gawsech lawer mwy o fendith ym moddion gras."
"Synnwn i ddim; ond yr wyf yn awr yn gweled, ac mae gweled pethau fel hyn yn fy ngwneud yn gwla. Ond swm y cwbl a glybuwyd yw hyn—un o wŷr y lifrai oedd Mr. Simon. Ac mi fuaswn yn leicio dweud tipyn arno yn y papur, ond mi gymeraf eich cyngor rhag i mi ddweud rhywbeth na ddylwn. Rhaid i mi geisio dwad o hyd i bytaten enfawr' neu hwch epilgar' yn rhywle i wneud i fyny newyddion yr wythnos. Da boch a dibechod."