a hynny yn galonnog a siriol, a mynych y dywedodd ynddo ei hun: "Mae'n rhaid bod Mr. Huws yn gwneud busnes anferth i allu dal i wario cymaint. Mae'n greulondeb gadael iddo fynd ymlaen fel hyn. Ond beth a ddeuai ohonof i bydae o'n rhoi stop arni?" Ac felly yr oedd Enoc yn gwneud busnes anferth, ac nid oedd yn gofalu llawer am arian. Ac ni allai'r Capten lai na sylwi bod Enoc yn ymddangos yn hapusach a hoywach nag y gwelsai'r Capten ef ers blynyddoedd. "Diame," meddai'r Capten, "fod Mr. Huws yn cael mwy o gysuron gartref gyda'r housekeeper newydd. Wn i beth wnaeth iddo gadw yr hen gwtsach gan Farged honno cyhyd. Ond y mae'r Miss Bifan yma yn ymddangos yn superior. 'Does gennyf ond gobeithio na phriodith Mr. Huws moni. Mae'r merched golygus yma yn gymeriadau peryglus fel housekeepers i hen lanciau. Synnwn i lychyn nad dyna fydd y diwedd. Yn wir, y mae rhywbeth yn serch-hudol yng ngolwg y ferch. Bydaswn i yn ŵr ifanc fy hun wel."
Fe gofia'r darllenydd fod Enoc wedi cyflogi Miss Bifan heb ymorol dim am ei chymeriad, na gofyn iddi ym mha le y bu'n gwasanaethu ddiwethaf. Pan glywodd Jones, y Plismon, y chwedl hon, chwarddodd o eigion ei galon, ac ni allai beidio ag edmygu diniweidrwydd crediniol ei hen gyfaill Enoc. Ond ni orffwysodd Jones wedi hyn nes dyfod o hyd i holl hanes Miss Bifan,—fel y tybiai ef—ac wedi ei gael, nid oedodd ei hysbysu i Enoc. Yn ôl Jones, yr oedd caritor Miss Bifan yn rhywbeth tebyg i hyn: Unig ferch ydoedd hi i amaethwr gweddol barchus, oedd yn byw oddeutu pedair milltir o Bethel. Yr oedd wedi ei dwyn i fyny yn grefyddol, wedi cael ychydig addysg, a phan oedd yn hogen, wedi ennill amryw wobrwyon am ganu, darllen, ac ateb cwestiynau mewn cyfarfodydd cystadleuol, a chyfrifid hi yn llawer mwy talentog na'i chyfoedion. Edrychid ar Miss Bifan hefyd, er yn lled ieuanc, fel yr eneth brydferthaf yn yr ardal, peth a barodd i'w chyfeillesau genfigennu ati, ac i'r