hogiau ymrafaelio yn ei chylch. Erbyn hyn, yr oedd Miss Bifan wedi bod yn gwasanaethu mewn amryw fannau, a chyda theuloedd parchus, a'r unig gŵynion a ddygid yn ei herbyn gan y "teuluoedd parchus y bu yn eu gwasanaethu, oedd yn gyntaf, ei bod yn gwisgo'n rhy dda; yn ail, ei bod yn peri i'w merched hwy ymddangos yn gomon, hagr, a diolwg; yn drydydd, fod ganddi bob amser gariad, a'i bod bob amser yn ffefryn gan feibion " y teuluoedd parchus "; ac yn olaf, fod ganddi ddwylo blewog. Pan. fynegodd y plismon hyn oll i Enoc, credodd yntau'r dystiolaeth am yr holl gŵynion oddieithr yr olaf, ac ebe fe yn selog:
"Wrth gwrs, y mae'r eneth yn gwisgo'n dda, a beth ydi hynny i neb arall, ac nid busnes meistr na meistres ydyw dweud wrth y forwyn sut a be i'w wisgo, os bydd hi'n talu am ei gwisg. Ac mae'r eneth hefyd yn bryd—ferth—'does dim dowt—ond 'dall hi ddim wrth hynny, a mi greda'n hawdd 'i bod hi'n gneud i ferched y teulu edrach yn gomon yn ei hymyl, a bod y meibion yn licio'i golwg hi,—beth oedd yn fwy naturiol? ond 'does dim eisio beio'r eneth am hynny, a 'dydi o ddim ond cenfigen sâl. Wyddoch chi be, mae ambell deulu'n meddwl nad oes gan forwyn ddim busnes i fod yn bropor, a bydaen' nhw'n medru, mi roen y frech wen arni, os nad hac yn ei gwefus. A 'dydi o ryfedd yn y byd os oes gan yr eneth gariad, ac os nad oes ganddi gariad—a mae hi'n deud nad oes ganddi 'run—mae o'n dangos bod bechgyn cyn ddalled â phost llidiart. Ac yn amal iawn, Mr. Jones, mi geiff geneth fel Miss Bifan hanner dwsin o gariadau, tra fydd merched y teuluoedd' yn gwefrio am gariad, a neb yn edrach arnyn nhw. Wel, ond 'dydw i ar fy ngore glas yn cadw gwyliadwriaeth ar hogiau'r siop yma—maen nhw'n gneud rhw esgus beunyddiol i ddwad i'r tŷ, ac mi wn mai'r amcan i gyd ydi cael golwg ar, a chael siarad gair â Miss Bifan. A beth sydd yn fwy naturiol—ond faswn i fy hun, oni bai am rywbeth y gwyddoch amdano? Ac am fod ganddi