Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/341

Gwirwyd y dudalen hon

Hwyrach y gwnâi unigrwydd les i Susi. Ond ni chymerai Miss Trefor yr olwg yna ar bethau, a theimlai hi fod gwaith ei thad—mor fuan ar ôl claddu ei mam—yn ei gadael ar ei phen ei hun yn y tŷ hyd berfeddion nos, yn ymddygiad angharedig i'r eithaf, ac oni bai fod Enoc Huws mor feddylgar a hynaws ag ymweled â hi mor fynych, buasai ei hunigrwydd bron yn annioddefol

Ers amser maith cyn marwolaeth ei mam teimlai Miss Trefor fod rhyw agendor rhyngddi a'i thad, a bod yr agendor yn ymledu beunydd. Achosai hyn boen mawr iddi. Cofiai adeg pryd yr edrychai ar ei thad gydag edmygedd diniwed, ac y golygai hi ef fel rhywun uwch a gwell na dynion yn gyffredin. Yr oedd hyn yn ei golwg ymhell, bell, yn ôl, ac edrychai gyda chalon hiraethus ar y cyfnod hwnnw. Gwnaeth lawer ymdrech egnïol i ail ennyn y fflam, ond ni ddeuai'r hen deimladau. yn ôl. Ar brydiau, meddyliai ei bod wedi ffurfio yn ei meddwl syniadau—na wyddai o ba le y cawsai hwynt—am uniondeb, cywirdeb, ac anrhydedd, na allai, nid yn unig ei thad, ond na allai unrhyw ddyn ddal i gael ei fesur a'i bwyso wrthynt, ond yn y funud cofiai am Enoc Huws—ni allai hi gael bai ynddo ef yn eu hwyneb. Lawer tro dychrynai a theimlai'n euog wrth feddwl am y syniadau a goleddai am ei thad. Ond er pob ymdrech, teimlai fod yr agendor oedd rhyngddi hi ac ef yn mynd yn lletach yn barhaus. Ond nid anghofiodd hi am foment ddau beth—sef ei fod yn dad iddi, a'i bod wedi gwneud llw y glynai wrtho tra byddai ef byw. Ni wnâi'r blaenaf ond ychwanegu ei phoenau wrth ganfod dirywiad cyson ei thad o'r dydd y bu farw ei mam, ac ni wnâi'r olaf ond peri iddi sylweddoli maint y trueni oedd o'i blaen. Ac eto cofiai fod ganddi gyfaill—cyfaill hyd y carn—ac ni allai hi, bellach, heb fod yn euog o'r anniolchgarwch mwyaf dybryd, a'r anffyddlondeb mwyaf i'w theimladau gorau hi ei hun, beidio â gwobrwyo ei ddyfalwch. "Dyletswydd" oedd arwyddair ei bywyd ers llawer o flynyddoedd, a chredai, yn wyneb y cyfnewidiad oedd