PENNOD XLVII
Y Brown Cow
Y FFAITH oedd fod Enoc, o'r diwedd, wedi llwyddo yn ei gais—yr oedd Miss Trefor wedi addo bod yn wraig iddo. Ac os haeddodd rhywun erioed lwyddo, haeddodd Enoc, oblegid yr oedd ei ffyddlondeb wedi bod yn ddiball, a'i aberthau uwchlaw rhoddi pris arnynt. Pa fodd y dygwyd hyn oddi amgylch, nid wyf yn bwriadu adrodd, canys yn y cyfryw amgylchiadau ac y maent oll yn lled gyffelyb y mae cymaint o ffwlbri yn digwydd fel y mae gan bob dyn sydd wedi bod yn briod am chwe mis gywilydd o'i galon gofio ei fod yntau wedi mynd trwy'r amgylchiad digrif, ac nid ydyw'n hoffi sôn amdano. Am hynny ni soniaf innau amdano, oherwydd pe gwnawn, ni roddai fwynhad i neb ond i ychydig hogennod—ac nid i hogennod yr wyf yn ysgrifennu yr hanes hwn, ond i ddynion synhwyrol. Digon ydyw dweud bod Miss Trefor wedi addo priodi Enoc Huws, yr hyn a'i traws-symudodd yntau ar unwaith i'r seithfed nef, ac a barodd i Miss Trefor, fel y dywedwyd, ystyried ei bod yn ddyletswydd arni hysbysu ei thad.
Yr wyf wedi sôn fwy nag unwaith yn yr hanes hwn am y Brown Cow. Tafarndy oedd, hynod o hen ffasiwn, ar gwr y dref. Mae'r tŷ, erbyn hyn, wedi myned dan amryw gyfnewidiadau, ond fel yr oedd ers talwm yr wyf yn awr yn sôn amdano. Nid oedd neb yn fyw yn cofio ei fod yn ddim amgen na thafarn. Yr oedd yn dŷ helaeth a chyfaddas iawn i'r busnes, ac yno, yn yr hen amser, y byddai'r porthmyn yn lletya noswaith o flaen y ffair. Dywedid nad oedd seler yn y wlad debyg i seler y Brown Cow am gadw cwrw rhag suro, ac yn yr amser gynt, arferai'r teulu ddarllaw eu cwrw eu hunain. Uwchben y drws yr oedd astell, ac arni lun buwch wedi ei beintio gan rywun na wyddai neb pwy, ond a gedwid yn annirywiedig drwy ei farneisio bob blwyddyn. Eglur ydoedd, yn ôl y darlun, na fuasai