Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/345

Gwirwyd y dudalen hon

cryddion, y melinyddion, a'r teilwriaid, a'r cyffelyb. Yn yr hen amser dedwydd gynt, cyn bod papur newydd Cymraeg mewn bod, a chyn bod sôn am ddirwest, âi hen "gojers" Bethel i gegin fawr y Brown Cow wedi nos—nid yn gymaint er mwyn yr home brewed diwenwyn —ond er mwyn ymgom ddiniwed, a chlywed rhyw newydd, os digwyddai fod yno ar ddamwain ryw bedlar teithiol neu brydydd yn aros dros nos. O leiaf, felly y dywedai fy nhaid wrthyf. A chyda pha fath awch y derbyniai'r hen "gojers safn—agored newyddion y pedlar, serch iddynt fod yn ddeufis oed! Yn niffyg y pedlar, llawer stori dda a adroddwyd yng nghegin fawr y Brown Cow. Nid dyna ydyw hanes y tafarnau yn awr, ysywaeth. Glas hogiau difarf, penwag, sydd yn eu mynychu erbyn hyn, a hynny fel anifeiliaid i yfed Kelstryn, ac yn mynd adref yn waeth eu sut na'r anifail.

Fel y dywedwyd, yr oedd dwy ystafell hefyd yn y cefn yn un yr oedd y teulu yn byw," a chedwid y llall fel math o barlwr i'r dosbarth gorau o gwsmeriaid, megis masnachwyr ac ambell grefyddwr fyddai'n hoffi peint heb i neb ei weled. Yn yr ystafell hon hefyd y byddai'r lletywr parchus a ddigwyddai aros yno dros nos, os na byddai'n well ganddo fyned i'r gegin fawr er mwyn y cwmni. A thorri'r stori'n fer, i'r ystafell hon yr arweiniwyd Capten Trefor gan Mrs. Prys, y dafarnwraig, pan ymwelodd gyntaf â'r Brown Cow. A rhaid dweud bod Mrs. Prys, pan roddodd y Capten ei big i mewn, yn ystyried bod hynny'n gryn anrhydedd i'w thŷ, oblegid yr oedd yn eithaf hysbys mai'r Llew Du oedd yr unig dŷ yn y busnes y talai'r Capten wrogaeth iddo. Mawr oedd ffwdan Mrs. Prys yn rhoi croeso i'r Capten, a mawr oedd ei llawenydd fod yn y parlwr—fel y digwyddai—gwmni parchus iddo am unwaith y daethai yno. Ni chynhwysai'r cwmni hwn y noson honno ond tri o fasnachwyr gweddol barchus, ond yr oedd y Capten wedi'i fwynhau ei hun gymaint gyda'r cwmni, fel y dywedodd, wrth ffarwelio â Mrs. Prys, nad âi mwy i'r