Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/353

Gwirwyd y dudalen hon

oedd Miss Trefor, fodd bynnag, yn hynod o hapus y noson honno, a meddyliai fod ei gweddïau yn dechrau cael eu hateb, ac y gallai ei thad, wedi'r cwbl, farw yn ddyn da a duwiol. Ond yr oedd ganddi beth arall yn pwyso ar ei meddwl ers wythnosau, fel y dywedwyd o'r blaen, sef ei haddewid i Enoc Huws, ac yn awr yr oedd ei thad mewn tymer y gallai hi anturio ei hadrodd wrtho. 'Wrth ei weled mor dyner a thadol bron nad ydoedd hi, erbyn hyn, yn edifarhau am nad ymgyngorasai ag ef cyn rhoi ei haddewid i Enoc Huws. Ond nid oedd mo'r help, ac ebe hi yn wylaidd ac ofnus:

"'Nhad, mae gen i isio deud rhywbeth wrthoch chi, 'newch chi ddim digio, 'newch chi?"

"Digio wrthoch, fy ngeneth bach? am ba beth y gwnawn i ddigio wrthoch? Mi wn nad oes gennyf, ar hyn o bryd, neb yn hidio dim amdanaf ond y chi, a mi wn nad ydech wedi gwneud dim drwg," ebe'r Capten.

"Mi obeithia nad ydw i wedi gwneud dim drwg," ebe Susi, "a heb i mi gwmpasu dim—yr wyf wedi addo priodi Mr. Enoc Huws."

Edrychodd y Capten arni yn synedig fel pe buasai'n methu credu ei glustiau, ac wedi edrych ac edrych arni mewn distawrwydd am hanner munud, ebe fe:

"Duw a'ch bendithio'ch dau! Pa bryd, Susi, y darfu i chwi roi'ch addewid iddo?"

"Mae rhai wythnosau, os nad misoedd, erbyn hyn," ebe hi.

'Hym," ebe'r Capten. "Nid wyf yn dweud dim yn erbyn y peth—'does gennyf yr un gwrthwynebiad pwysig i chwi briodi Mr. Huws. Ond, mewn ffordd o siarad, Susi, mi fuaswn yn disgwyl i chwi ymgynghori â'ch tad cyn entro i gytundeb mor ddifrifol. Ond na hidiwch am hynny."

"Yr oeddwn ar fai, 'nhad," ebe hi, "ac mae'n ddrwg gen i na faswn i wedi siarad â chi'n gyntaf. Ond y mae'r peth wedi ei wneud, a gobeithio y gwnewch chi fadde i mi, ac na wnewch chi ddim dangos dim gwrthwynebiad."