dylai ennill deg talent ati wrth ei gosod yn y fasnach orau. Fod yn well i ferch ieuanc brydweddol fyw ar un pryd yn y dydd am dri mis, na gwisgo bonet allan o'r ffasiwn. Hyd yr oedd yn bosibl, na chymerai hi sylw o neb islaw iddi hi ei hun, oddieithr pan wyddai hi yr edrychid ar hynny fel ymostyngiad rhinweddol a Christnogol. Na ddifwynai hi, hyd y gallai, byth mo'i dwylaw gydag un gorchwyl isel a dirmygedig, megis cynnau tân, golchi'r llestri, glanhau'r ffenestri, cyweirio'r gwely, a'r cyffelyb, ac os byddai raid iddi wneud rhywbeth yn y ffordd honno, na chai llygad un estron ei gweled. Yr arhosai yn amyneddgar a phenderfynol heb briodi hyd bump ar hugain oed, oni ddeuai rhyw ŵr bonheddig cyfoethog i'w gynnig ei hun iddi, ond oni ddeuai erbyn yr oed hwnnw, nad arhosai hi yn hwy yn sengl, ond yr ymostyngai i gymryd y masnachwr gorau y gallai hi gael gafael arno, os byddai yn ariannog. Nad edrychai hi ar bregethwr ond fel un i dosturio wrtho, fel dyn prudd a thlawd, ond os caffai hi gynnig ar gurad, a fyddai o deulu da, ac yn un tebyg o gael bywoliaeth dda, y cymerai hynny i ystyriaeth— hynny ydyw, y teulu a'r fywoliaeth, a hefyd, os byddai'r curad yn good-looking, na wnâi wahaniaeth yn y byd pa mor llymrig a dienaid a fyddai—po fwyaf felly, gorau yn y byd, gallai ei drin fel y mynnai. Pwy bynnag a briodai hi, a phriodi a wnâi yn sicr ddigon, ac nid gwaeth fyddai ganddi fod yn Hottentot nag yn hen ferch—pwy bynnag a briodai hi, mynnai gael ei ffordd ei hun—neu, a defnyddio ymadrodd isel—yr oedd wedi gwneud diofryd y mynnai "wisgo'r clôs."
Dyna ychydig o ideas Miss Susan Trefor. Yr oedd ganddi eraill, a fuasai'n gosod Miss Trefor mewn gwedd fwy dymunol o flaen y darllenydd. Ac nid yw ond cyfiawnder â hi i mi ddweud bod ganddi un idea oedd i raddau helaeth yn rhoi lliw a llun ar y cwbl, a hwnnw oedd ei chred ddiysgog a pharhaus fod ei thad yn gyfoethog. Cafodd Miss Trefor amser maith—amryw flynyddoedd—i anwesu a magu'r ideas hyn.