Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/364

Gwirwyd y dudalen hon

yn ffyddlon ddigon, a synnodd braidd pan ddywedodd Miss Trefor wrtho fod ei thad gartref, a bod arno eisiau siarad ag ef ynghylch y Gwaith, oblegid anfynych y cawsai Enoc olwg ar y Capten gartref yn ddiweddar gyda'r nos. Pan aeth Enoc i'r parlwr, rhoddodd y Capten wedd bruddaidd ar ei wyneb, ac ebe fe:

"Yr wyf wedi bod yn dymuno'ch gweld, Mr. Huws, ers cryn bythefnos, ac yn ofni drwy waed fy nghalon eich gweled, ond yr wyf wedi penderfynu mynd dros y garw heno."

Chwarddodd Enoc, canys yr oedd ef mewn tymer ragorol y dyddiau hynny.

"Beth yn y byd mawr all fod y rheswm am eich bod yn ofni fy ngweled?" meddai.

"Mi ddywedaf i chwi," ebe'r Capten, "pa beth bynnag fydd y canlyniad. Mi obeithiaf, Mr. Huws, wedi i mi ddweud yr hyn na allaf deimlo'n dawel fy nghydwybod heb ei ddweud, mi obeithiaf, meddaf, nad edrychwch arnaf fel dyn anonest neu dwyllodrus, oblegid nid wyf na'r naill na'r llall. Mae'n bosibl i'r dyn cywiraf fethu yn ei amcanion ac yn ei farn, ac er, mewn ffordd o siarad, y gallaf, os goddefwch i mi ddweud felly, fy llongyfarch fy hun nad ydwyf neilltuol o hynod am fethu yn f'amcanion na'm barn, eto nid ydwyf yn myntumio fy mod yn gwbl rydd a glân oddi wrth y diffygion a grybwyllais. Yn wir, such men are few and far between, ac nid wyf yn hawlio bod yn un o'r few, er, mewn dull o ddweud, fy mod yn gwenieithio i mi fy hun, os nad ydwyf yn un ohonynt, fy mod, os nad ydwyf yn fy nhwyllo fy hun, yn byw yn lled agos i'w cymdogaeth. Yr wyf yn meddwl eich bod yn f'adnabod yn ddigon da i goelio amdanaf, pe gwnawn gamgymeriad, na fyddwn wedi ei wneud yn fwriadol, ac na ellid priodoli'r camgymeriad ychwaith, a siarad yn gyffredinol, i ddiffyg scientific knowledge, cyn belled ag y mae hwnnw yn mynd. Ond hwyrach, yn fy niniweidrwydd, fy mod yn cymryd gormod yn ganiataol—mae'r fath beth yn bosibl, mi wn. Ond rhag i mi eich