Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/365

Gwirwyd y dudalen hon

cadw mewn disgwyliad yn rhy hir, a goddef arteithiau fy nghalon yn hwy nag a ddylwn—a goddefwch i mi ddweud mai'r hyn yr wyf ar fedr ei ddweud wrthych ydyw'r gofid mwyaf a gefais erioed, a chwi wyddoch fy mod yn gwybod am ofidiau lawer, ond hwn ydyw'r gofid mwyaf, coeliwch fi—rhag i mi eich cadw yn rhy hir heb ei wybod, fel y dywedais, mae'n dyfod i hyn, Mr. Huws—'newch chi ddim digio wrthyf yn anfaddeuol wedi i mi ei hysbysu i chi?"

"Ewch ymlaen, Capten Trefor," ebe Enoc yn sobr ddigon, oblegid credai, erbyn hyn, fod y Capten yn mynd i ddweud wrtho na chydsyniai iddo gael Miss Trefor yn wraig.

"Ond mi fuaswn yn dymuno cael addewid gennych—wrth feddwl y fath gyfeillion ydym wedi bod—na fydd i chwi ddigio yn anfaddeuol wrthyf. Ond rhaid i mi gydnabod pe gwnaech felly, na byddai ond fy haeddiant, er nad fy haeddiant chwaith, oblegid mi gymeraf fy llw fy mod, yn ystod ein trafodaethau, wedi bod yn berffaith onest cyn belled ag yr oedd fy ngwybodaeth yn mynd. Ond dyma ydyw, Mr. Huws, ac y mae bron â'm drysu, ond y mae ymdeimlad o ddyletswydd, ac ateb cydwybod dda, yn fy ngorfodi i'ch hysbysu ohono—yr ydym, bellach, wedi anobeithio y deuwn byth i blwm yng Nghoed Madog, ac wrth feddwl am yr holl bryder a'r helynt, ac mor sicr oeddwn yn fy meddwl y cawsem blwm yno, ac wrth feddwl am yr holl arian yr ydech chi a minnau wedi eu gwario—er y mae'n rhaid i mi ddweud nad yr hyn a weriais i, ond yr hyn a wariasoch chi, sydd yn fy mlino—wrth feddwl am hyn i gyd, meddaf, y mae bron â'm drysu, ac yr wyf yn gorfod gwneud y cyfaddefiad fy mod wedi gwneud camgymeriad yr unig gamgymeriad mewn mining a wneuthum yn fy oes, ond yr wyf yn gorfod ei gydnabod. Ac erbyn hyn, Mr. Huws, yr ydwyf yn erbyn fy ngwaethaf yn gorfod dyfod i'r penderfyniad mai oferedd fyddai i ni wario ffyrling arall ar y Gwaith, a mi ddymunwn allu'ch perswadio chwithau