Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/370

Gwirwyd y dudalen hon

thad wedi gwelwi fel y galchen, ac mai prin y gallai ei goesau ei ddal pan gododd i roddi derbyniad iddo.

Cipiodd Susi hugan a thrawodd ef am ei phen, fel na allai neb ei hadnabod, a rhedodd i edrych am Mrs. Bryan yn ei helynt blin. Bu yno yn hir—agos i awr—a chyn iddi redeg yn ôl, clywodd ddigon gan yr hen wreigan i beri iddi deimlo'n anesmwyth. Ond yr oedd wedi rhoi ei haddewid i Enoc, ac ni allai dim ddigwydd i beri iddi dorri'r addewid honno, deued a ddeuai. Wrth iddi droi am gongl heol pan oedd yn prysuro adref, safodd yn sydyn gwelodd ei thad a'r boneddwr yn dyfod i'w chyfarfod. Gwelodd y ddau yn sefyll gyferbyn â Siop y Groes, ac wedi cryn siarad, ei thad yn troi adref heb gymaint ag ysgwyd llaw â'r boneddwr, a'r olaf yn curo ar ddrws tŷ Enoc Huws. Eglurai hyn iddi'r nodyn a gawsai gan Enoc yn ystod y diwrnod, ei fod i gyfarfod â rhyw foneddwr y noson honno. Cyflymodd Miss Trefor ffordd arall er mwyn bod adref o flaen ei thad. Ac nid gorchwyl anodd oedd hyn, canys cerddai'r hen Gapten yn araf â'i ddwylo ar ei gefn, gan edrych tua'r llawr, fel pe buasai ei enaid wedi ei dynnu ohono. Cyfarfu Susi ag ef yn ddiniwed yn y lobi, a gofynnodd a oedd arno eisiau rhywbeth ganddi cyn iddi fyned i'w gwely.

"Nag oes, fy ngeneth," ebe'r Capten, ac yr oedd ei eiriau fel pe buasent yn dyfod o'r bedd, ond ni sylwodd hi ar eu tôn—yr oedd ganddi ei meddyliau ei hun i'w blino. Gan amlder ei meddyliau o'i mewn, ni chysgodd Miss Trefor am rai oriau, ac er gwrando'n ddyfal, ni chlywsai ei thad yn mynd i'r gwely. Ar adegau dychmygai ei glywed yn cerdded yn ôl ac ymlaen hyd y parlwr, ond meddyliai wedyn mai dychymyg oedd y cwbl. Drannoeth cyfododd yn lled fore fel arfer—yn wir yr oedd hi i lawr y grisiau o flaen Kit, y forwyn. Aeth yn syth i'r parlwr, a dychrynwyd hi'n ddirfawr gan yr hyn a welodd yno. Gorweddai ei thad ar y soffa, ac ymddangosai fel pe buasai'n cysgu'n drwm. Ar y bwrdd yn ei ymyl yr oedd dwy botel o Scotch whiskey—yn