wag. Gwelodd hefyd y funud yr aeth i'r ystafell, lythyr ar y mantelpiece wedi ei gyfeirio iddi hi. Dododd y llythyr yn ei phoced, ac ysgubodd y potelau gweigion o'r golwg, oblegid nid oedd hi'n fodlon i hyd yn oed Kit wybod bod ei thad wedi bod yn yfed yn drwm yn ystod y nos. Wedi gwneud hyn, ni wyddai'n iawn pa un ai gadael ei thad i gysgu ei feddwdod ymaith ai ei ddeffro a fyddai orau. Ond beth pe buasai'n cysgu i farwolaeth? Penderfynodd ei ddeffro. Aeth ato. Yr oedd yn cysgu'n esmwyth, a phetrusodd rhag aflonyddu arno. Rhoddodd ei llaw yn ysgafn ar ei law ef, a chafodd ei bod cyn oered â darn o rew. Gosododd ei chlust wrth ei enau. Nid oedd yn anadlu. Yr oedd yr hen Gapten, "mewn ffordd o siarad," cyn farwed â hoel!
Yn gyffredin, yr oedd hunanfeddiant Miss Trefor yn ddiail, a chyn hyn, lawer tro, yn yr amgylchiadau mwyaf poenus, yr oedd wedi dangos nerth meddwl a'r fath feistrolaeth ar ei theimladau, nes peri i Kit edrych arni fel geneth galed, pryd, mewn gwirionedd, nad caledwch ydoedd o gwbl, ond cryfder. Ond y foment y sylweddolodd fod ei thad yn gorff marw, rhoddodd ysgrech dros yr holl dŷ, a syrthiodd i'r llawr mewn llesmair. Dygodd hyn Kit, ar hanner gwisgo amdani, i'r ystafell mewn eiliad, ac wrth ganfod yr olygfa ddieithr, a thybied bod y Capten a Miss Trefor—y ddau fel ei gilydd yn farw gelain, gwaeddodd hithau nerth esgyrn ei phen, a rhuthrodd allan gan barhau i weiddi. Dygodd hyn amryw bobl i'r tŷ ymhen ychydig funudau, a rhedodd rhywun am y meddyg. Cyn i'r meddyg gyrraedd—ac, fel y digwyddodd, yr oedd ef yn ymyl,—deallwyd mai mewn llewyg yr oedd Miss Trefor, ond bod y Capten mewn gwirionedd wedi marw. Pan ddaeth y meddyg, yr oedd yr ystafell, fel arferol, yn y cyfryw amgylchiadau, yn llawn o bobl awyddus i wneud unrhyw beth yn eu gallu, ond heb allu gwneud dim ond cyfyngu ar awyr iach. Wedi clirio pawb allan oddieithr rhyw ddau, troes y meddyg ei sylw at y gwrthrych pwysicaf, sef y