Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/372

Gwirwyd y dudalen hon

Capten, a phan oedd wrth y gorchwyl dechreuodd Miss Trefor ddadebru, ac yn fuan daeth ati ei hun. Dywedodd y meddyg fod y Capten yn ddiamau wedi marw, peth a wyddai pawb, ac ychwanegodd beth na wyddai pawb, sef mai achos ei farwolaeth oedd clefyd y galon, wedi ei achlysuro gan orlafur meddwl. Ac wedi holi tipyn ar Miss Trefor am yr amgylchiadau, ac iddi hithau ddywedyd wrtho mai fel y gwelsai ef ei thad, y gwelsai hithau ef, aeth y meddyg ymaith. Ac yn y man aeth y cymdogion ymaith, a gadawyd Miss Trefor a Kit! am ysbaid yn unig. Yn ei phrofedigaeth lem, meddyliodd Miss Trefor am Enoc Huws, ac erfyniodd ar Kit fyned i'w alw, ac, os nad oedd ef wedi clywed eisoes, am iddi ddweud y newydd difrifol wrtho mor gynnil ag y gallai rhag ei ddychrynu. Tra'r oedd Kit yn myned i Siop y Groes, cofiodd Miss Trefor am y llythyr, ac mewn pryder ac ofn agorodd ef, ac y darllenodd:

FY ANNWYL SUSI,—Yr wyf yn ysgrifennu hyn o eiriau atoch rhag ofn na welaf mo'r bore, ac yn wir, mewn ffordd o siarad, nid wyf yn gofalu a gaf ei weld ai peidio, oblegid, erbyn hyn, y mae bywyd yn faich trwm arnaf. F'annwyl eneth, yr wyf yn eich caru'n fawr, ond ni wn beth a feddyliwch am eich tad ymhen ychydig ddyddiau, ac y mae arnaf awydd mawr cael fy nghymryd ymaith cyn gorfod eich wynebu ac wynebu fy nghymdogion—yr wyf yn teimlo yn sicr na fedraf, a gwell gennyf farw na gwneud. Y mae hi yn y pen arnaf,—mae f'anwiredd yn fawr ac atgas, a chwi synnech fy mod wedi gallu ei guddio cyhyd. Ond ni allaf ei guddio'n hwy—daw allan i gyd ac ar unwaith. Mae Duw yn f'ymlid, ac nid oes gennyf le i ffoi. Y mae'n galed arnaf, ac yr wyf bron â hurtio. Yr wyf wedi ceisio gweddïo, ond ni fedraf—ac ni wnâi un gwahaniaeth yn fy sefyllfa pa un ai yn y byd hwn ai yn y byd arall y byddaf cyn y bore. Y fath drugaredd fod eich mam wedi fy rhagflaenu. O na byddai'n bosibl i chwithau fy rhag—flaenu cyn i hyn oll ddyfod i'r golau. Ni allaf byth ddisgwyl i chwi faddau i mi—byddai'n wyrth i chwi allu gwneud hynny. F'annwyl eneth, mae cnofeydd yn fy nghydwybod fy mod wedi dwyn gwarth bythol ar eich enw pur. Mae fy mywyd wedi bod yn un llinyn o dwyll a rhagrith, a'm syndod yw bod y byd mor hawdd i'w dwyllo. Yr wyf wedi twyllo, do, hyd yn oed eich twyllo chwi, f'annwyl eneth. Yr unig ddaioni sydd wedi ei adael ynof, ers blynyddoedd, yw fy nghariad atoch chwi, f'annwyl Susi; a mi ddymunwn ar eich rhan allu wylo dagrau o dân, ond ni fedraf; a'r tipyn daioni hwn sydd wedi ei adael ynof ydyw fy nhrueni pennaf erbyn hyn. Hebddo buaswn yn teimlo rhyw fath o