Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/376

Gwirwyd y dudalen hon

ei lygaid mewn syndod pan ddeallodd mai Cymro ydoedd—ebe'r gŵr:

"Mi ddwedais wrthych fore heddiw, Mr. Huws, fod gennyf eisiau siarad gair â chwi yn gyfrinachol. Cymro ydwyf, fel y gwelwch, ac wrth ystyried leied o Gymraeg wyf wedi ei glywed ers cynifer o flynyddoedd, yr wyf yn credu y dywedwch nad ydwyf wedi Dic Siona rhyw lawer. Gadewais Cymru flynyddoedd lawer yn ôl—ers mwy o flynyddoedd nag a ellwch chwi gofio. Gyrrwyd fi o'r wlad hon gan amgylchiadau profedigaethus. Nid oeddwn yn dlawd—wel, yn wir, yr wyf yn meddwl yr ystyrid fi dipyn yn gefnog. Yr oeddwn, cyn mynd i ffwrdd, wedi claddu fy rhieni, a'm hunig frawd a'm dwy chwaer. Yr oeddwn yn briod ers llawer o flynyddoedd, ac yr oedd gennyf un ferch, ac yr wyf yn credu y gallaf ddweud nad oedd yn y gymdogaeth eneth brydferthach na mwy rhinweddol (yn y fan hon lleithiodd llygaid yr hen ŵr a daeth rhywbeth i'w wddf fel na allai fynd ymlaen am funud. Yn y man ychwanegodd): Esgusodwch fi, Mr. Huws, mae'r amser yn dyfod yn fyw i'm meddwl. Ar ôl afiechyd byr bu farw fy ngwraig. Yr oedd hynny yn ergyd ofnadwy i mi—teimlwn fy mod yn mynd yn fwy unig bob dydd, a bod fy nghyfeillion, oedd wir gyfeillion i mi, mewn byd arall, ac, ar adegau, hiraethwn am fynd atynt. Ond yr oedd gennyf wedyn fy merch, ac i mi, y pryd hwnnw, yr oedd o fwy gwerth na'r byd efo'i gilydd. Ac, fel y dywedais o'r blaen, mor annwyl oedd yn fy ngolwg fel y tybiwn nad oedd ei bath yn unlle. Yr oedd fy musnes yn lled fawr, ond yr oedd gennyf ŵr ieuanc—wel, rhyw bymtheng mlynedd ieuangach na mi—clyfar a medrus, yn edrych ar ei ôl pan nad oeddwn i, oherwydd profedigaethau, yn alluog i dalu nemor sylw iddo. Ymddiriedwn y cwbl iddo, ac yr oedd yn fy nhŷ fel un ohonom. Bûm am ysbaid mewn iselder ysbryd ac nid oeddwn yn gofalu am bethau'r byd hwn. Ymhen amser—ac o drugaredd y mae amser yn gwelláu dyn—mi ddois ataf fy hun, a dechreuais