ei wneud am fy ffolineb. Penderfynais na châi neb f'adnabod nes i mi ddyfod o hyd i'r ŵyr, ac os byddai'n werth ei arddel, y gwnawn ef yn etifedd. Gwelwch, Mr. Huws, fy mod wedi rhoddi'r penderfyniad hwnnw mewn gweithrediad, ac y mae'n dda gennyf eich hysbysu fy mod, ar ôl dau fis o ymchwiliad distaw—fy mod ers rhai wythnosau wedi dyfod o hyd iddo, ac wedi ei gael yn ddyn parchus ymhlith ei gymdogion—yn ddyn na bydd raid i mi gywilyddio o'i blegid pan ddaw gyda mi i'r America i fod yn gwmni i mi yn fy hen ddyddiau ac i etifeddu f'eiddo."
"Diolch i Dduw," ebe Enoc, o waelod ei galon. Gadewch. "Ond gadewch glywed, syr, pa fodd y daethoch o hyd iddo?"
"Caf ddweud hynny wrthrych rywdro eto, Mr. Huws. Y chwi eich hun ydyw fy ŵyr, myfi ydyw eich taid," ebe'r hen foneddwr, gan ddodi ei wyneb rhwng ei ddwylo ar y bwrdd.
Afreidiol dweud bod Enoc wedi ei syfrdanu, a phan gofia'r darllenydd, fel y gŵyr yn dda, mor wan oedd ei nerfau, afreidiol hefyd ydyw dweud bod yr amgylchiad yn fwy nag y gallai ei ddal. Yn y man, ychwanegodd y taid:
"Ond nid ydwyf wedi dweud ond un hanner o'r hanes. Pan ddeuthum yn ôl i Gymru nid oeddwn yn dychmygu nac yn dymuno dyfod o hyd i'ch tad. Yr oeddwn yn credu y buasai'r diafol wedi gwneud pac ohono ef ers talwm, oblegid mi a'i rhoddais i'w ofal cyn i mi fyned oddi cartref. Ond y mae'n hir iawn yn ei nôl. Eich tad ydyw'r dyn—os teilwng o'r enw dyn—sydd yn ei alw ei hun yn Capten Trefor. Nid dyna ydyw ei enw bedydd. Ei wir enw ydyw Enoc Huws, ac ar ei enw ef y galwyd chwithau gan yr hen Mrs. Amos. Adnabûm o y noson gyntaf y deuthum i'r Brown Cow. Ond er mwyn bod yn sicr, cymerais amser i holi ac ymofyn yn ddistaw, ac i sylwi yn fanylach arno. Ef ydyw eich tad, mae'n ddrwg gennyf ddweud; un o'r scoundrels gwaethaf ar wyneb y ddaear, fel y dywedais wrtho heno