ag edau wen. Yr oeddynt ill trioedd cyn ddistawed â llygod, oblegid ni chaniateid i'r fam a'r ferch siarad tra byddai'r Capten yn ysgrifennu ei lythyrau. Taflai'r ddwy ers meityn edrychiad dan eu cuwch ar y Capten am yr amen ar y llythyrau, ac yr oedd ei waith yn dal ei bin yn segur am ddeng munud yn boenus iawn i'r fam a'r ferch, oedd bron hollti eisiau siarad. Rhôi'r ferch edrych— iad ar y fam, a'r ystyr oedd, "Ond ydi o'n hir?" Rhôi'r fam edrychiad ar y ferch, " Tria ddal tipyn bach eto." A thipyn bach y bu raid iddi ei ddal, oblegid ymhen dau funud, taflodd y Capten y pin ar y bwrdd, cyfododd ar ei draed, a cherddodd yn ôl a blaen yn ddiamynedd hyd yr ystafell. Edrychodd y fam a'r ferch braidd yn frawychus, oblegid ni welsant erioed olwg mor gynhyrfus arno, ac ebe'r Capten:
Fedra i ddim ysgrifennu, a thria i ddim chwaith, 'rwyf wedi blino a glân ddiflasu ar y gwaith, byth na 'smudo i!" "Tada," ebe Miss Trefor, "ga' i ysgrifennu yn ych lle chi?
"Cei" ebe fe ("Cewch " a ddywedasai oni bai ei fod wedi colli ei dymer, ac felly ei fod yn fwy naturiol). Cei," meddai, os medri di ddweud mwy o gelwyddau na fi."
"The idea, dada!" ebe Miss Trefor.
"The idea, faw!" ebe'r Capten, "be wyddoch chi eich dwy am yr helynt yr ydw i ynddi o hyd yn ceisio cadw pethe i fynd ymlaen? Be sy gynnoch chi eich dwy i feddwl amdano heblaw sut i rifflo arian i ffwrdd, a sut i wisgo am y crandia, heb fawr feddwl am yfory? Ond, y mae hi wedi dwad i'r pen, ac mi fydd diwedd buan arna i ac ar ych holl ffa—lal chithe, byth na 'smudo i, a mi fydd!
O, Richard bach!" ebe Mrs. Trefor, oblegid yr oedd clywed y Capten yn siarad fel hyn yn newyddbeth hollol iddi. O, Richard bach! 'roeddwn i'n disgwyl o hyd iddi ddwad i hyn. Mi wyddwn o'r gorau y bydde i chi