Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/380

Gwirwyd y dudalen hon

yn ei dŷ ei hun. Ac oni bai amdanoch chwi a'i ferch brydferth, mi 'i rhown o yn ddigon saff cyn nos yfory. Onid yw bysedd un troed i chwi yn glynu yn ei gilydd? Felly y mae'r eiddo yntau, os ewch i'w chwilio. Mae hyn, mi wn, yn ergyd ofnadwy i chwi, er fy mod, o'r ochr arall, yn edrych arno fel peth hynod Ragluniaethol i mi ddyfod yma i'ch atal rhag priodi eich chwaer. Ond peidiwch ag ymollwng, dangoswch eich bod yn ddyn—rhaid oedd i hyn ddyfod i'r golwg, a dylech fod yn ddiolchgar. Codwch eich pen i fyny, fy machgen annwyl, dowch, peidiwch â rhoi ffordd i'ch teimladau.'

Hawdd iawn oedd dweud am beidio ag ymollwng, ond teimlai Enoc ei fod wedi ei drywanu yn ei galon, ac ymollwng a wnaeth. Nid oedd Mr. Davies yn adnabod ei ŵyr nac yn gwybod mor nerfus ydoedd, onid e buasai yn gwneud y datganiad iddo yn gynilach. Bu raid i Enoc orwedd ar y soffa, ac edrychai mor glefydus nes peri tipyn o fraw i'w daid. Canodd y gloch am Miss Bifan, a gofynnodd iddi gyrchu meddyg yno ar unwaith, yr hyn a wnaeth. Cariwyd Enoc i'w wely, a bu ei daid, a Miss Bifan, a'r meddyg, yn gweini arno drwy'r nos.