goler wen fawr cyn stiffed ag erioed. Pan edrychodd Wil arno, yr oedd Thomas yn dal ei het befar fawr ar ei glust dde, ac fel pe buasai yn gwrando beth oedd ganddi i'w ddweud, ac ymddangosai yn hynod ddefosiynol. Yr oedd yr olwg arno y trêt gorau a gawsai Wil ers blynyddoedd, a daeth mil o atgofion digrif i'w feddwl, fel y bu raid iddo guddio ei wyneb rhag i bobl feddwl ei fod yn cellwair ar amgylchiad mor ddifrif. Yr oedd Thomas yntau wedi canfod Wil, a chyn gynted ag yr aeth y gwasanaeth drosodd, brasgamodd ato, a chan ysgwyd llaw ag ef at y penelin, ebe fe:
"Wel, yr hen bry! a 'rwyt ti wedi dwad i'r fei o'r diwedd? Lle 'rwyt ti wedi bod yn cadw, dwed?"
"Yn Birmingham y bûm i ddiweddaf, Thomas, "ebe Wil.
"Debyg; mi wyddwn ma yn un o'r gwledydd tramor ene 'roeddet, ne y basen ni wedi clywed rhwbeth amdanat ti cyn hyn. Wyst ti be, 'rwyt ti wedi mynd yn strap o ddyn nobl anwêdd—wyt ti'n meddwl aros tipyn?"
"Mi fyddaf yma am dipyn, beth bynnag. Sut mae Barbara, Thomas?" gofynnai Wil.
Cwyno gan 'i lode o hyd, wel di 'n siampal. Mi ddoi acw on ddoi di? Ma gynnat ti lot i'w ddeud 'rwan, mi dy wranta. Ma acw fwyd yn y tŷ, cofia. Paid a bod yn ddiarth."
"Dim peryg, Thomas. Mi ddof acw gynted y bydd yr helynt yma drosodd," ebe Wil.
"Ie, helynt mawr ydi o hefyd, a ma'n lwc ma unweth mae o'n digwydd yn oes dyn, ne wn i ddim be fase'n dwad ohonom ni," ebe Thomas.
Ymhen deuddydd, hynny ydyw, drannoeth ar ôl claddu Hugh Bryan, aeth Enoc a'i daid i Dy'n yr Ardd. Ymgymerodd y taid â'r gorchwyl annifyr o egluro i Miss Trefor ei pherthynas ag Enoc. Cyn myned yno yr oedd Enoc a'i daid, er mwyn arbed teimladau Miss Trefor, wedi penderfynu peidio â sôn dim am anonestrwydd ei thad tra'r oedd ef yng ngwasanaeth