Mr. Davies, oblegid nid oedd un amcan da yn cael ei gyrraedd wrth gicio ceffyl marw. Parhaodd y cyfarfod am rai oriau, ond nid buddiol fyddai i mi adrodd ei hanes, canys bu yno gryn wylo ac ocheneidio, ac nid dedwydd ydyw ysgrifennu am bethau felly. Gwnaeth Enoc un peth yno nad oedd er mor rhyfedd ydyw adrodd—wedi ei wneud o'r blaen—cusanodd Miss Trefor. Ac y mae popeth yn dda sydd yn diweddu'n dda.
Wedi rhai dyddiau gwerthodd Miss Trefor ddodrefn Ty'n yr Ardd a phopeth a berthynai i'w thad, ac aeth i fyw i Siop y Groes gan gymryd Kit gyda hi. Parhai Mr. Davies i fyw gydag Enoc, ac yr oedd Wil Bryan yn rhannu ei amser rhwng cysuro ei fam weddw a difyrru teulu—oblegid yr oedd yno deulu, erbyn hyn—Siop y Groes. Ymhen ychydig fisoedd dechreuodd Mr. Davies anesmwytho am ddychwelyd i'r America, ac eto nid oedd yn fodlon i wneud hyn cyn gweled pethau wedi eu rhoi ar dir diogel a pharhaol. Prysurwyd yr amgylchiadau. Un bore heb fod neb o'r cymdogion yn gwybod dim am y peth, gwnaed Wil a Sus yn ŵr a gwraig yn hen eglwys y plwyf. Gweithredai Enoc fel gwas a Miss Bifan fel morwyn briodas, a thaid Enoc yn "rhoi"'r briodasferch. Pan oedd y seremoni drosodd, cychwynnodd Wil a Sus ymaith, ond gwaeddodd Mr. Brown a Mr. Davies ar unwaith: "Arhoswch! 'dyden ni ddim wedi darfod eto," ac ebe Enoc: "Mae tro da yn haeddu un arall." Trawsffurfiwyd Wil yn was a Sus yn forwyn, a phriodwyd Enoc a Miss Bifan yn y fan a'r lle. Yr oedd hyn wedi ei gadw yn ddirgelwch hollol rhwng Mr. Brown, Mr. Davies, Enoc, a'i gariad newydd. Dychwelodd y cwmni, a Mr. Brown gyda hwynt, i Siop y Groes i fwynhau brecwest rhagorol. Nid oedd ond un diffyg yn y ddarpariaeth hyd yn oed yng nghyfrif Mr. Brown, a ddywedodd yn breifat wrth Enoc:
"Mi dylase bod yma tipyn bach o gwin, Mr. Huws, ar amgylchiad fel hon, yn ôl pob sens. Ond 'dydech