amodau heddwch drwy eistedd i lawr wrth y pentan; a dechrau mygu. Wedi gwneud hyn, ebe'r Capten, yn llawer mwyneiddiach :
Sarah, maddeuwch i mi; mi wn mai ffŵl ydw i, a 'mod i wedi f'anghofio fy hun. Mi ddylaswn wybod na wyddech chi na Susi ddim am fusnes. Ond bydaech chi'n gwybod am yr helynt yr ydw i ynddi o hyd, hwyrach y maddeuech i mi. Sarah, peidiwch â chrio, dyna ddigon, dyna ddigon, gwrandewch arna i."
"Tada," ebe Susi, "gobeithio nad ydech chi ddim yn mynd i sôn am fusnes, am syndicate, a Board of Directors, a geology, a phethe felly, achos mi wyddoch na dda gan 'y mam a finne mo bethe felly."
"Efo'ch mam yr ydw i'n siarad, Susi. Sarah, 'wnewch chi wrando arna' i?" ebe'r Capten.
"Os gwnewch chi siarad fel rhw ddyn arall, a pheidio â cholli'ch tempar," ebe Mrs. Trefor, gan sychu ei llygaid, ac ail afael yn ei gwnïadwaith.
"Wel, mi driaf," ebe'r Capten, ac erbyn hyn yr oedd wedi oeri digon i siarad yn lled fanwl a gramadegol. Chwi wyddoch, Sarah," meddai, "fy mod mewn cysylltiad â Gwaith Pwll y Gwynt ers llawer iawn o flynyddoedd. Y fi fu'n offeryn i gychwyn y Gwaith— y fi, gydag un arall, a ffurfiodd y cwmpeini. Ac y mae'n rhaid i bawb gyfaddef fod ugeiniau o deuluoedd wedi cael bywoliaeth oddi wrth y Gwaith, a bod y Gwaith wedi bod yn help mawr i gario achos crefydd yn ei flaen yn y gymdogaeth. Yn wir, wn i ddim beth a ddaethai o'r achos oni bai am Waith Pwll y Gwynt. Rhaid i chwithau, Sarah, gydnabod na fuoch yn ystod yr holl amser yn brin o gysuron bywyd nac o foddion gras. Yr ydym fel teulu, yn y tymor hwnnw, wedi'n codi ein hunain yng ngolwg ein cymdogion, ac yn cael edrych arnom yn lled barchus. Mi newch gydnabod hynny, Sarah? 'Does dim eisiau i mi eich atgofio am ein sefyllfa cyn i mi ddod i'r cysylltiad yr wyf yn sôn amdano.